Cofnodion 101 i 125 o 1528
-
Bwyd mewn ysbytai: gwelliannau ar y fwydlen
Dydd Gwener, 1 Chwefror 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i wneud bwydlenni ysbytai yn iachach. -
Hybu Iechyd Meddwl Pobl Ifanc trwy Bersonoli Gofal gyda Thechnoleg Well (ProYouth)
Dydd Gwener, 1 Chwefror 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae anhwylderau bwyta yn un enghraifft o anhwylderau meddwl difrifol sy’n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf. Felly, ffocws menter ProYouth yw hybu iechyd pobl ifanc 15-25 oed, yn ymwneud yn benodol â bwyta’n iach, bod yn fodlon gyda’ch corff, ac anhwylderau bwyta. -
Cynhadledd Rhoi’r Gorau i Smygu yng Nghymru 2013
Dydd Mercher, 30 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruCynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynhadledd undydd i rannu gwybodaeth am roi’r gorau i smygu yng Nghymru. Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey. -
Cyfluniad yr amgylchedd adeiledig a newid ym mynegai màs y corff: Astudiaeth Ragolygol Caerffili
Dydd Llun, 28 Ionawr 2013, Planet Health CymruMae’r papur hwn yn defnyddio data carfan o Astudiaeth Ragolygol Caerffili (CaPS) i ddadansoddi’r cysylltiadau annibynnol hirdymor rhwng set eang o ffactorau amgylcheddol adeiledig a newid mewn BMI dros gyfnod o 12 mlynedd. -
Canllaw newydd i wasanaethau iechyd a lles llyfrgelloedd
Dydd Gwener, 25 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llyfrgelloedd Cymru a Lles Cymru i gyhoeddi canllaw newydd i’r gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael mewn llyfrgelloedd. -
Cyfraddau Hunanladdiad yng Nghymru i fyny 30% mewn dwy flynedd – ffigurau ONS
Dydd Gwener, 25 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru wedi codi 30% mewn dwy flynedd i’r lefel uchaf er 2004 ac mae’r cyfraddau’n uwch na Lloegr. -
Patrymau gweithgaredd corfforol ymysg oedolion yng Nghymru
Dydd Iau, 24 Ionawr 2013, Planet Health CymruMae Canolfan Genedlaethol Sefydliad Prydeinig y Galon wedi creu dalen ffeithiau newydd am batrymau gweithgaredd corfforol ymysg oedolion yng Nghymru. -
Adolygiadau i ddysgu o farwolaethau a niwed yn GIG Cymru
Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a MwyMae’r papur gwyn diweddaraf gan 1000 o Fywydau a Mwy yn ymchwilio i sut y mae GIG Cymru wedi cynnal adolygiadau o farwolaethau – drwy astudio nodiadau meddygol cleifion a fu farw yn yr ysbyty i sicrhau eu bod wedi cael y gofal gorau posibl. -
Cyhoeddi dogfennau Adolygiad Gwella Iechyd
Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae dogfennau wedi cael eu cyhoeddi yn amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd mewn dau ddigwyddiad ymgysylltu â thema yng Ngogledd a De Cymru ym mis Hydref 2012 fel rhan o’r Adolygiad Gwella Iechyd. -
Timau yn GIG Cymru yn gweithio i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar bobl a chleifion
Dydd Llun, 21 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a MwySicrhau Gofal sy'n Cael ei Lywio gan y Claf a'r Unigolyn yw thema e-gylchlythyr diweddaraf 1000 o Fywydau a Mwy. Mae Timau ledled GIG Cymru yn trafod sut y maent yn sicrhau mai cleifion yw canolbwynt eu gwaith. -
Ceisio barn am yr angen am Fil Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru
Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Llywodraeth Cymru yn casglu barn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil i wella iechyd pobl Cymru. -
Canllaw newydd i wasanaethau iechyd a lles llyfrgelloedd
Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llyfrgelloedd Cymru a Lles Cymru i gyhoeddi canllaw newydd i’r gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael mewn llyfrgelloedd. -
Pecyn Cymorth Tecawê
Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Planet Health CymruOffer, ymyriadau ac astudiaethau achos i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu ymateb i effaith bwydydd tecawê ar iechyd. -
Rhaglen MEND o dan reolaeth newydd
Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae ‘r fenter gymdeithasol a’r elusen Mytime Active wedi caffael MEND Canolog, sy’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu plant yng Nghymru i gael ffordd o fyw iachach a mwy egnïol. -
Pythefnos ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru
Dydd Llun, 14 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a MwyDim ond pythefnos sydd ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru sy'n dathlu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio sy'n trawsnewid gofal cleifion ledled Cymru. -
Gardd Gymunedol
Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanNaratif wedi ei godi o fideo Martineau Gardens ar fuddion gerddi cymunedol i iechyd y cyhoedd. -
Defnyddio storïau cleifion i lywio gwelliannau i wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf
Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy"Mae storïau cleifion yn offeryn pwerus i lywio newidiadau mewn gwasanaethau. Gallwn ddysgu beth sy'n llwyddiannus o safbwynt y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a rhannu'r arfer da hwnnw â chydweithwyr,” meddai Kathryn Doughton, Arweinydd Storïau Gwella Ansawdd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf. -
Holi Ynghylch Cyswllt Rhwng Diodydd Diet ac Iselder
Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae arbenigwyr yn holi a allai diodydd diet gynyddu’r perygl o iselder, ar ôl i astudiaeth sylweddol ganfod cysylltiad. -
Nyrsys i arwain ymgyrch i leihau anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol
Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflenwi ymgyrch arloesol i leihau’r don gynyddol o oryfed mewn pyliau ac anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru. -
Graffiti lliwgar ar balmentydd ysbytai Gogledd Cymru
Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae celf graffiti lliwgar wedi cael ei roi ar balmentydd o gwmpas tir ysbytai ar draws Gogledd Cymru i annog pobl i roi’r gorau iddi yn 2013. -
Ymdawelu a Byw Ychydig yn Hwy – Dyna’r Ffasiwn
Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae straen sy’n gysylltiedig â dicter yn lladd, ond gallwch wneud rhywbeth am y peth. -
Rhowch ychydig o Wmff! i mewn i’ch Addysg
Dydd Gwener, 4 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanCymhwysiad Ffôn Deallus yw Wmff!, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012, sydd wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc gan SNAP Cymru, prif sefydliad partneriaeth rhieni Cymru. -
Annog pobl Cymru sy’n ysmygu i wneud Adduned Blwyddyn Newydd yn 2013 i roi’r gorau i’r arferiad
Dydd Iau, 27 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruIonawr y cyntaf ydy’r diwrnod pan fydd pobl yn gwneud adduned Blwyddyn Newydd. -
Cynhadledd Rhoi'r Gorau i Smygu yng Nghymru 2013
Dydd Gwener, 21 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae modd cofrestru nawr ar gyfer y gynhadledd genedlaethol ar gymorth i roi'r gorau i smygu yng Nghymru sy'n cael ei chynnal ddydd Mawrth 29 Ionawr 2013 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. -
Angen mwy o gymorth ar bobl ifanc ddigartref
Dydd Mawrth, 18 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruAwgryma adolygiad o dystiolaeth fod pobl ifanc ddigartref yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys neu o gael eu derbyn i'r ysbyty na'u cymheiriaid sydd â chartrefi, a bod angen mwy o help arnynt i gael mynediad i wasanaethau iechyd priodol.
Cofnodion 101 i 125 o 1528




