Newyddion

Hidlo Newyddion
Cofnodion 76 i 100 o 1496
  • Adolygiadau i ddysgu o farwolaethau a niwed yn GIG Cymru

    Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
    Mae’r papur gwyn diweddaraf gan 1000 o Fywydau a Mwy yn ymchwilio i sut y mae GIG Cymru wedi cynnal adolygiadau o farwolaethau – drwy astudio nodiadau meddygol cleifion a fu farw yn yr ysbyty i sicrhau eu bod wedi cael y gofal gorau posibl.

  • Cyhoeddi dogfennau Adolygiad Gwella Iechyd

    Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae dogfennau wedi cael eu cyhoeddi yn amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd mewn dau ddigwyddiad ymgysylltu â thema yng Ngogledd a De Cymru ym mis Hydref 2012 fel rhan o’r Adolygiad Gwella Iechyd.
     

  • Timau yn GIG Cymru yn gweithio i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar bobl a chleifion

    Dydd Llun, 21 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
    Sicrhau Gofal sy'n Cael ei Lywio gan y Claf a'r Unigolyn yw thema e-gylchlythyr diweddaraf 1000 o Fywydau a Mwy. Mae Timau ledled GIG Cymru yn trafod sut y maent yn sicrhau mai cleifion yw canolbwynt eu gwaith.

  • Ceisio barn am yr angen am Fil Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Llywodraeth Cymru yn casglu barn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil i wella iechyd pobl Cymru.
     

  • Canllaw newydd i wasanaethau iechyd a lles llyfrgelloedd

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llyfrgelloedd Cymru a Lles Cymru i gyhoeddi canllaw newydd i’r gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael mewn llyfrgelloedd.
     

  • Pecyn Cymorth Tecawê

    Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Planet Health Cymru
    Offer, ymyriadau ac astudiaethau achos i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu ymateb i effaith bwydydd tecawê ar iechyd.

  • Rhaglen MEND o dan reolaeth newydd

    Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae ‘r fenter gymdeithasol a’r elusen Mytime Active wedi caffael MEND Canolog, sy’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu plant yng Nghymru i gael ffordd o fyw iachach a mwy egnïol.

  • Pythefnos ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru

    Dydd Llun, 14 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
    Dim ond pythefnos sydd ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru sy'n dathlu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio sy'n trawsnewid gofal cleifion ledled Cymru.

  • Gardd Gymunedol

    Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Naratif wedi ei godi o fideo Martineau Gardens ar fuddion gerddi cymunedol i iechyd y cyhoedd.

  • Defnyddio storïau cleifion i lywio gwelliannau i wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf

    Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
     "Mae storïau cleifion yn offeryn pwerus i lywio newidiadau mewn gwasanaethau. Gallwn ddysgu beth sy'n llwyddiannus o safbwynt y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a rhannu'r arfer da hwnnw â chydweithwyr,” meddai Kathryn Doughton, Arweinydd Storïau Gwella Ansawdd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

  • Holi Ynghylch Cyswllt Rhwng Diodydd Diet ac Iselder

    Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Mae arbenigwyr yn holi a allai diodydd diet gynyddu’r perygl o iselder, ar ôl i astudiaeth sylweddol ganfod cysylltiad.

  • Nyrsys i arwain ymgyrch i leihau anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol

    Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflenwi ymgyrch arloesol i leihau’r don gynyddol o oryfed mewn pyliau ac anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru.

  • Graffiti lliwgar ar balmentydd ysbytai Gogledd Cymru

    Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae celf graffiti lliwgar wedi cael ei roi ar balmentydd o gwmpas tir ysbytai ar draws Gogledd Cymru i annog pobl i roi’r gorau iddi yn 2013. 

  • Ymdawelu a Byw Ychydig yn Hwy – Dyna’r Ffasiwn

    Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Mae straen sy’n gysylltiedig â dicter yn lladd, ond gallwch wneud rhywbeth am y peth.

  • Rhowch ychydig o Wmff! i mewn i’ch Addysg

    Dydd Gwener, 4 Ionawr 2013, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Cymhwysiad Ffôn Deallus yw Wmff!, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012, sydd wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc gan SNAP Cymru, prif sefydliad partneriaeth rhieni Cymru.

  • Annog pobl Cymru sy’n ysmygu i wneud Adduned Blwyddyn Newydd yn 2013 i roi’r gorau i’r arferiad

    Dydd Iau, 27 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Ionawr y cyntaf ydy’r diwrnod pan fydd pobl yn gwneud adduned Blwyddyn Newydd.
     

  • Cynhadledd Rhoi'r Gorau i Smygu yng Nghymru 2013

    Dydd Gwener, 21 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae modd cofrestru nawr ar gyfer y gynhadledd genedlaethol ar gymorth i roi'r gorau i smygu yng Nghymru sy'n cael ei chynnal ddydd Mawrth 29 Ionawr 2013 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
     

  • Angen mwy o gymorth ar bobl ifanc ddigartref

    Dydd Mawrth, 18 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Awgryma adolygiad o dystiolaeth fod pobl ifanc ddigartref yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys neu o gael eu derbyn i'r ysbyty na'u cymheiriaid sydd â chartrefi, a bod angen mwy o help arnynt i gael mynediad i wasanaethau iechyd priodol.
     

  • Mannau tew? Archwilio Achosion Amgylcheddol Gordewdra

    Dydd Llun, 17 Rhagfyr 2012, Planet Health Cymru
    Cynhaliwyd y digwyddiad hwn fel rhan o Gyfres Ddarlithio Morgannwg ar 12 Tachwedd 2012 o dan arweiniad Julie Guthman o Brifysgol California.

  • Grŵp Hunan-gymorth yn Cynnig Rhyddhad rhag Iselder trwy Addysgu Strategaethau Ymdopi

    Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    I’r rheiny sy’n dioddef gorbryder, iselder a phroblemau iechyd meddwl eraill, gall dod o hyd i’r cymorth iawn fod yn eithriadol o anodd.
     
    Gall fod yn anodd cymryd y cam o ymestyn allan a gofyn am gymorth, ond gall dod o hyd i’r driniaeth iawn sy’n addas i chi ychwanegu at yr anawsterau y mae&rsq

  • Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer unfed cyfarfod ar hugain y Bwrdd

    Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae’r agenda a’r papurau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer unfed cyfarfod ar hugain Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
     

  • Merched yn eu Harddegau’n Dawnsio’u Ffordd i Iechyd Meddwl Gwell

    Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Gall dawnsio’n rheolaidd leddfu iselder, straen, blinder a hyd yn oed cur pen i ferched ifanc, yn ôl astudiaeth a fonitrodd 112 o ferched o Sweden rhwng 13 a 19 oed.

  • Cyhoeddi adroddiadau terfynol ar Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint

    Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiadau terfynol yn edrych ar batrymau Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
     

  • Cynyddu Gweithgaredd Corfforol - Lleihau’r Perygl o Ddementia

    Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Mae astudiaeth newydd yn datgelu y gallai pobl hŷn sy’n cynyddu eu gweithgaredd corfforol leihau’r siawns o gael dementia. 

  • HIV – lansio ymgyrch newydd ar gyfer Cymru ar Ddiwrnod Aids y Byd

    Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Bydd ymgyrch newydd i atgoffa pobl bod haint HIV yn parhau i beryglu iechyd pobl yn cael ei lansio yng Nghymru ar Ddiwrnod Aids y Byd (1 Rhagfyr 2012).

Cofnodion 76 i 100 o 1496
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com