Cofnodion 1 i 25 o 1375
-
Creu system gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Dydd Mercher, 23 Mai 2012, 1000 o Fywydau a MwyMae papur gwyn newydd gan 1000 o Fywydau a Mwy yn amlinellu rhai o’r ffyrdd y mae angen i GIG Cymru addasu er mwyn dod yn system gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar y claf. -
Mae gwella ansawdd yn lleihau costau, yn ôl papur gwyn newydd
Dydd Mercher, 23 Mai 2012, 1000 o Fywydau a MwyGall GIG Cymru ddarparu gofal o’r ansawdd gorau ac arbed arian ar yr un pryd yn ôl papur gwyn newydd gan 1000 o Fywydau a Mwy, a ddisgrifiwyd fel “dogfen greiddiol” gan David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru. -
Cyfle i’ch syniad da ddisgleirio!
Dydd Llun, 21 Mai 2012, 1000 o Fywydau a MwyMae Shine, rhaglen arloesedd y Sefydliad Iechyd , yn gwahodd ceisiadau am gyllid hyd 17 Gorffennaf 2012 - mae dros £1 miliwn ar gael i gynorthwyo hyd at 18 o dimau gofal iechyd arloesol. -
Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Strôc
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth o Strôc, ac mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn atgoffa trigolion y sir sut i adnabod arwyddion strôc. -
Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys trwy amlygu gwaith rhai o’i staff. -
Pobl leol yn dod yn hyrwyddwyr iechyd
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae pobl leol yng Ngwent yn cael cyfle i fod yn hyrwyddwyr iechyd yn eu cymuned, diolch i gynllun newydd a lansiwyd yr wythnos hon. -
Y Pwyllgor Ymchwilio Amgylcheddol yn cyhoeddi adroddiad ar fwyd cynaliadwy
Dydd Iau, 17 Mai 2012, Planet Health CymruMae’n rhaid i’r Llywodraeth ddatblygu strategaeth gydlynus i newid system fwy afiach y DU sy’n niweidio’r amgylchedd, wrth i bryderon gynyddu am ddiogelwch byd-eang bwyd, yn ôl rhybudd gan ASau ar y Pwyllgor Ymchwilio Amgylcheddol. -
Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau
Dydd Iau, 17 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruCafodd yr Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau ei roi ar waith ar draws gwasanaethau diwedd beichiogrwydd GIG Cymru fel rhan o brosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru. -
Canllaw Arfer Da – Cynllunio ar gyfer Amgylchedd Glân, Diogel a Thaclus
Dydd Mawrth, 15 Mai 2012, Planet Health CymruMae Cadw Cymru’n Daclus wedi creu Canllaw Arfer Da – ‘Cynllunio ar gyfer Amgylchedd Glân, Diogel a Thaclus’. -
RCMA yn Lansio Prosiect ‘Siop Gornel Iach’ gyda Chymorth Cyngor Caerdydd
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Planet Health CymruMae siopau cornel sydd wedi eu lleoli mewn tair o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn prosiect Siop Gornel Iach newydd sy’n cael ei gydlynu gan Steve Garrett o RCMA ar gyfer rhaglen Dinasoedd Iach Caerdydd fel rhan o nod Cyngor Caerdydd i annog trigolion i fyw bywyd iachach. -
Canlyniadau arolwg o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau astudiaeth Ewropeaidd i gasglu data ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, y defnydd o ddyfeisiau meddygol a’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn ysbytai. -
Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru wedi lansio eu tudalen newydd ar Facebook. Byddant yn rhoi’r newyddion a’r dolenni diweddaraf ar eu tudalen newydd i amlygu’r gwaith y maent yn ei wneud i hybu a gwella gofal iechyd meddwl ledled Cymru. -
HEIDI: Ffordd newydd o rannu a chadw gwybodaeth iechyd yn yr UE
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Planet Health CymruMae HEIDI yn golygu ‘Health in Europe: Information and Data Interface’ ac mae’n wiki ar y rhyngrwyd sy’n rhoi data dibynadwy a chymaradwy am iechyd yn yr UE. -
Ymgynghori: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth y Llywodraeth gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru
Dydd Mawrth, 8 Mai 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanDechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/05/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/07/2012 -
8fed Cyfarfod Blynyddol a Symposiwm HEPA Ewrop
Dydd Mawrth, 8 Mai 2012, Planet Health Cymru26 – 27 Medi 2012
Stadiwm y Mileniwm a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd -
Astudiaethau achos yn amlygu enghreifftiau o ofal sy’n cael ei lywio gan y claf a’r unigolyn o bob cwr o Gymru
Dydd Mawrth, 8 Mai 2012, 1000 o Fywydau a MwyMae 1000 o Fywydau a Mwy yn lansio cyfres o astudiaethau achos yn dangos yr offer a’r technegau a ddefnyddir gan dimau ledled Cymru i sicrhau bod eu gwasanaethau’n canolbwyntio ar anghenion a dymuniadau cleifion a’u teuluoedd. -
Achos o cryptosporidiosis yn cael ei ymchwilio mewn ysgol yng Nghaerdydd
Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerdydd yn ymchwilio i sawl achos o salwch dolur rhydd ymysg disgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Caerdydd. -
Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae cynllun sydd yn nodi egwyddorion ymrwymiad y sefydliad i gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael ei fabwysiadu. -
Cofrestru yn agor ar gyfer Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru
Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruGellir cofrestru bellach ar gyfer ail Gynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru a gynhelir ar 18 Gorffennaf 2012 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. -
Cynllun iechyd yr afu yn cael ei lansio mewn carchardai
Dydd Iau, 3 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruHeddiw lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynllun darparu gwasanaeth i gynorthwyo carchardai Cymru i wella iechyd yr afu ymysg carcharorion. -
Cyhoeddi adroddiad ar daith cymrodoriaeth i Golumbia Brydeinig
Dydd Mercher, 2 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Sarah Hope, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Powys, bellach wedi cynhyrchu adroddiad ar ei thaith a’i hastudiaethau diweddar yng Ngholumbia Brydeinig. -
Un o sêr y byd rygbi'n 'taclo' embaras ynghylch sgrinio'r coluddion!
Dydd Mercher, 2 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae un o sêr y byd rygbi, Phil Bennett, yn gobeithio taclo canser y coluddion, ar ôl hybu Sgrinio Coluddion Cymru ar ITV yr wythnos hon. -
Cyhoeddi ystadegau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Mawrth 2012
Dydd Mawrth, 1 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae data a gesglir gan Google Analytics ar sut y mae ymwelwyr wedi rhyngweithio â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod trydydd mis 2012 bellach ar gael. -
Rhoi sylw i frechlynnau i blant yn ystod Wythnos Imiwneiddio Ewrop
Dydd Llun, 30 Ebrill 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu pwysigrwydd brechiadau i blant yn ystod Wythnos Imiwneiddio Ewrop 2012. -
Gwella triniaeth i unigolion ag anhwylderau bwyta
Dydd Llun, 30 Ebrill 2012, 1000 o Fywydau a MwyMae nifer y bobl sy’n dioddef o anhwylderau bwyta fel anorecsia a bwlimia ar gynnydd yng Nghymru a gwneir diagnosis o tua 1,000 o achosion newydd bob blwyddyn.
Cofnodion 1 i 25 o 1375

