Dydd Iau, 3 Ebrill 2008
Lansio rhwydwaith newydd i hybu dealltwriaeth o iechyd meddwl
Er mwyn sicrhau dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd a lles meddwl, cafodd Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ei lansio ar 14eg Mawrth.
Bydd y rhwydwaith yn cysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys cyflogwyr, awdurdodau lleol, undebau llafur, gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon a gweithwyr proffesiynol yn y sector gwirfoddol, a chanddynt oll ran sylweddol i’w chwarae yn y broses o hybu iechyd a lles meddwl pobl Cymru. Bydd hefyd yn hwyluso cyfnewid dysg, rhannu arferion da ac yn hybu ffyrdd o wella iechyd meddwl.
Lansiwyd gwefan i ategu’r rhwydwaith hefyd a’i chyfeiriad yw www.iechydmeddwlycyhoedd.org
Mae’r rhwydwaith, sy’n cael ei redeg gan Ganolfan Iechyd Cymru, yn un o brif fentrau Llywodraeth y Cynulliad i helpu i wella iechyd meddwl y boblogaeth.
Mae’r Athro Mansel Aylward, Cadeirydd Canolfan Iechyd Cymru a Bwrdd Cynghori’r Rhwydwaith yn ymrwymedig i wella dealltwriaeth y cyhoedd a herio’r dybiaeth gyffredin bod iechyd meddwl yn gyfystyr â salwch meddwl:
“Mae iechyd meddwl wedi cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â salwch meddwl, neu fel gair teg am hynny, ers tro. Fodd bynnag, ystyrir bod iechyd a lles meddwl yn rhinweddau dymunol ynddynt eu hunain ac yn llawer mwy na dim ond absenoldeb symptomau salwch meddwl. Yn wir, gall iechyd meddwl fodoli ochr yn ochr â salwch meddwl.
“Mae ein hiechyd meddwl yn dylanwadu ar ein credoau, ein hymddygiad, ein canfyddiadau ohonom ni ein hunain ac eraill, a sut yr ydym yn dehongli newid yn ein bywydau. Caiff ein hiechyd meddwl ei effeithio nid yn unig gan brosesau meddyliol mewnol, ond hefyd gan ein cyd-destun cymdeithasol, ein ffordd o fyw a’n hamgylchedd.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydgysylltydd y Rhwydwaith, Nathan Jones, ar 029 2022 7744
Ffynhonnell:
Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan




