Achosion o glefyd meningococaidd mewn meithrinfa yng Nghaerdydd

Dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2012
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i ddau achos o lid yr ymennydd meningococaidd ymysg plant sy’n mynychu Meithrifa Blue Door yng Nghaerdydd.
 
Hysbyswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru am yr achos cyntaf ddechrau mis Gorffennaf. Anfonwyd llythyrau at rieni ar y pryd i’w cynghori am arwyddion a symptomau llid yr ymennydd.
 
Hysbyswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru am ail achos ar 25 Gorffennaf.
 
Meddai Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gallai cael dau hysbysiad gan yr un feithrinfa mewn cyfnod o bedair wythnos olygu bod y clefyd wedi cael ei drosglwyddo yn y feithrinfa.
 
“Caiff bacteria sy’n achosi llid yr ymennydd meningococaidd eu cario yng nghefn gwddf llawer o bobl iach. Gellir trosglwyddo’r germ i eraill drwy gysylltiad agos am gyfnod maith â rhywun sy’n ei gario, a hynny fel arfer mewn cartrefi. Yn achlysurol gall y germ achosi salwch mewn person iach pan ddaw i gysylltiad ag ef.
 
“Felly, fel cam rhagofalus, rydym yn cynnig gwrthfiotigau i  bob plentyn ac aelod o staff yn y feithrinfa i leihau’r risg y bydd rhagor o achosion yn codi.
 
“Bydd y gwrthfiotig yr ydym yn ei argymell yn clirio’r germ o gefn gwddf unrhyw un yn y feithrinfa a allai fod wedi ei ddal. Ond ni fydd yn atal salwch mewn rhywun sydd eisoes wedi cael ei heintio felly cynghorir rhieni i fod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau a cheisio cymorth meddygol os ydynt yn bryderus.
 
“Gallai’r symptomau hyn gynnwys cur pen, twymwn, teimlo’n swrth, chwydu, stiffrwydd yn y cyhyrau ac o bosibl brech gochlyd nad yw’n diflannu pan fydd gwydryn yn cael ei bwyso yn ei herbyn. Ni fydd pob un o’r symptomau i’w gweld o reidrwydd.”
 
Am fwy o wybodaeth ewch i:
 
 
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o:
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com