Dydd Gwener, 2 Mawrth 2012
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i nifer o achosion o’r ffliw sy’n gysylltiedig â Chartref Preswyl Dorothy Lewis yn Nhreganna, Caerdydd.
Mae ugain o’r 33 o breswylwyr wedi datblygu symptomau tebyg i rai’r ffliw er 19 Chwefror 2012.
Mae naw o’r rhain wedi cael eu derbyn i’r ysbyty ac mae dau ohonynt wedi marw.
Mae naw o’r 40 o aelodau staff hefyd wedi datblygu symptomau tebyg i’r preswylwyr. Nid oes unrhyw aelodau o’r staff wedi cael eu derbyn i’r ysbyty hyd yn hyn.
Mae profion microbiolegol yn dangos mai achos y salwch yw Influenza A (H3N2). Mae hwn yn fath arferol o’r ffliw ac mae wedi cael ei gynnwys ym mrechlyn y ffliw eleni.
Mae preswylwyr yn y cartref sydd heb ddatblygu’r symptomau eto yn cael Tamiflu i leihau difrifoldeb y symptomau os byddant yn datblygu’r salwch.
Mae symptomau fel rhai’r ffliw yn cynnwys gwres, peswch, dolur gwddf, cur pen, poenau yn y cyhyrau, blinder a chwydu. Efallai na fydd yr holl symptomau yn bresennol.
Dywedodd Dr Marion Lyons, Prif Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er mwyn atal lledaenu’r salwch ymhellach, dylid ymarfer technegau sylfaenol rheoli haint, fel:
- Gorchuddio eich trwyn a’ch ceg wrth beswch neu disian, gan ddefnyddio hances lle y bo’n bosibl.
- Cael gwared ar hancesi budr yn gyflym ac yn ofalus.
- Cynnal hylendid sylfaenol da, er enghraifft golchi eich dwylo’n aml gyda sebon a dŵr er mwyn atal lledaenu’r feirws o’ch dwylo i’ch gwyneb neu i bobl eraill.
- Glanhau arwynebeddau caled (e.e. dolenni drysau) yn aml gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol.
- Helpu plant i ddilyn y cyngor hwn.
“Mae’r rhan fwyaf o unigolion iach yn gwella ar ôl cael y ffliw heb unrhyw broblemau. Fodd bynnag, weithiau gall salwch difrifol ddigwydd, yn arbennig ymysg rhai grwpiau agored i niwed fel menywod beichiog a’r rheiny â chlefydau cronig.”
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda’r cartref preswyl i fonitro’r sefyllfa.
Mae mwy o wybodaeth am weithgaredd wythnosol y ffliw yng Nghymru ar gael yn: www.publichealthwales.org/flu-activity
Mae mwy o wybodaeth am ffliw tymhorol ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44184
Mae mwy o wybodaeth am frechlyn y ffliw ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=457&pid=25480
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru




