Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ddydd Mercher, 22 Chwefror.
Bydd y gynhadledd, o’r enw ‘Y Rhyw Deg: Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Rhywiol yng Nghymru’, yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau iechyd rhywiol, a bydd y testunau yn cynnwys:
- Ymateb i anghenion iechyd rhywiol gweithwyr rhyw yng Nghymru
- Iechyd Rhywiol Menywod mewn Hosteli: Prosiect WHISH
Bydd Joanna Bass o Age Cymru a Lisa Power o Ymddiriedolaeth Terence Higgins yn cynnal sesiwn lawn bwysig ar iechyd rhywiol ymysg pobl dros 50 oed gan fod heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ymysg y grŵp oedran hwn yn cynyddu’n gyflym.
Dywedodd Joanne Bass o Age Cymru, “Cafodd pobl dros 50 oed eu magu mewn cyfnod pan roedd atal beichiogi yn flaenoriaeth o ran rhyw diogel ac mae llawer o’r bobl hyn yn fwy tebygol nawr o fod yn sengl neu’n dechrau perthynas newydd oherwydd eu bod wedi gwahanu, wedi ysgaru neu wedi cael profedigaeth.
“Mae’n bwysig bod pobl hŷn yn cael cymorth ac yn ymwybodol o’r peryglon yn ymwneud â rhyw heb ddiogelwch am eu bod o’r farn nad ydynt mewn perygl o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.”
Daeth i’r casgliad, “Mae anghenion iechyd a lles rhywiol pobl dros 50 oed yn cael eu diystyru yn aml oherwydd barn sy’n gwahaniaethu ar sail oedran nad yw pobl dros 50 oed yn dal i gael rhyw.”
Bydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn annerch y gynhadledd hefyd.
Dywedodd, “Mae cynhadledd flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn fwy na digwyddiad i rannu gwybodaeth – mae’n fforwm ar gyfer cytundeb a thrafodaeth yn ymwneud â heriau allweddol iechyd rhywiol.
“Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan ddatblygiad parhaus gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru ac yn falch iawn bod y gostyngiad parhaus a chyson yng nghyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol – gonorea a siffilis, ar eu hisaf er 2005. Rydym wedi profi dros 100,000 o unigolion ar gyfer clamydia ac mae nifer yr achosion yn dal i leihau.
“Heddiw mae’r ffocws ar leihau anghydraddoldebau iechyd rhywiol ac rwy’n falch iawn o weld bod anghenion cymaint o grwpiau amrywiol yn cael eu trafod.”
Bydd Lesley Griffiths hefyd yn cyflwyno Gwobr Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru i Wasanaeth Taith Barnardo’s Cymru, a roddir i gydnabod eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc 8 -18 oed sydd wedi cymryd rhan mewn ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol.
Mae Gwasanaeth Taith hefyd yn darparu asesiadau ar gyfer pobl ifanc 18-21 oed lle mae pryderon mewn perthynas â’r perygl o ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol. Mae Gwasanaeth Taith, a sefydlwyd yn 2000, wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r gwasanaeth wedi derbyn atgyfeiriadau ar gyfer dros 900 o bobl ifanc yn y cyfnod hwn ac mae’n cynnal cyfarfodydd grŵp llywio bob tri mis er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi gwasanaeth o ansawdd, i adolygu contractau ac ystyried datblygiadau yn y gwasanaeth.
Mwy o wybodaeth
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

