Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012
Mae data a gesglir gan Google Analytics ar sut mae ymwelwyr wedi rhyngweithio â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod mis Rhagfyr 2011 bellach ar gael.
Rhwng 1-31 Rhagfyr 2011 cofnodwyd 7,153 o ymweliadau â’r wefan Saesneg gan 4,935 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 21,870 o dudalennau. Ar gyfartaledd roedd ymwelwyr yn edrych ar fwy na thair tudalen yn ystod pob ymweliad ac yn treulio ychydig dros ddau funud ar y wefan. Deilliodd 48 y cant o’r ymweliadau o Gymru ac roedd 40 y cant o’r ymweliadau yn deillio o weddill y DU (Lloegr yn bennaf). Cofnodwyd ymwelwyr o 84 o wledydd eraill, fel yr Unol Daleithiau, Canada, India, Awstralia a’r Aifft , â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Treuliodd ymwelwyr o Gymru fwy o amser na’r cyfartaledd ar y wefan (tri munud bron) gan edrych ar fwy o dudalennau yn ystod pob ymweliad (pedair tudalen).
Ffigur 1: Ymweliadau wythnosol â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 01/12/2011-31/12/2011 [glas] a 01/12/2010-31/12/2010 [oren]

Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, cofnodwyd 185 o ymweliadau gan 100 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 667 o dudalennau. Ar gyfartaledd treuliodd yr ymwelwyr bron bedwar munud ar y wefan gan edrych ar oddeutu bedair tudalen yn ystod pob ymweliad.
Rhestrir y pymtheg tudalen yr ymwelwyd â hwy amlaf yn y tabl isod:
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (y wefan Saesneg)
|
Teitl y Dudalen (y wefan Gymraeg)
|
|
1
|
||
|
2
|
Search
|
Chwilio
|
|
3
|
||
|
4
|
||
|
5
|
||
|
6
|
||
|
7
|
||
|
8
|
||
|
9
|
||
|
10
|
||
|
11
|
||
|
12
|
||
|
13
|
||
|
14
|
||
|
15
|
Yn ôl y disgwyl, mae llawer o’r tudalennau cynnwys mwyaf poblogaidd yn dudalennau gwelywio. Fodd bynnag, mae gwybodaeth yn ymwneud â’r Ymchwiliad parhaus i waith Hanson Cement yn ymddangos ddwywaith yn y pymtheg tudalen uchaf ar gyfer fersiwn Saesneg yn wefan.
Tudalen lanio yw’r dudalen y mae ymwelydd yn ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan. Cofnodwyd mai’r datganiad i’r wasg am gyfarfod Tîm Ymateb Hanson Cement oedd yr ail ffordd fwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd gan ymwelwyr i gael mynediad i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r data’n dangos bod nifer o’r ymwelwyr hyn wedi cyrraedd y dudalen hon drwy ddilyn dolen o wefan HSE neu wefan newyddion y BBC.
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (Saesneg)
|
|
1
|
|
|
2
|
|
|
3
|
|
|
4
|
|
|
5
|
|
|
6
|
|
|
7
|
|
|
8
|
|
|
9
|
|
|
10
|
Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, yr hafan oedd y dudalen lanio a gofnodwyd amlaf, gan gyfrif am 48 y cant o ymwelwyr. Cyrhaeddodd y 52 y cant o’r ymwelwyr sy’n weddill y wefan drwy 66 o wahanol dudalennau ond nid oedd yr un o’r tudalennau hyn yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r tudalennau glanio.
Mae ein Polisi Preifatrwydd, y ceir dolen iddo ar waelod pob un o dudalennau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn berthnasol i bob gwybodaeth a gesglir neu a gyflwynir i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i’r defnydd o Google Analytics i fonitro gweithgaredd defnyddwyr. Gellir darllen ein Polisi Preifatrwydd yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/47461.
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

