Dydd Iau, 26 Ionawr 2012
Mae modd archebu lle nawr yn nawfed Cynhadledd Imiwneiddio Cymru, a drefnir gan Raglen Clefydau y Gellir eu Hatal Gan Frechlyn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Eleni cynhelir y gynhadledd ar 25 Ebrill yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam.
Anelir y gynhadledd at weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag imiwneiddio, a’r gost o’i mynychu yw £10 yn cynnwys lluniaeth a chinio.
Traddodir y brif araith gan Dr Sian Owen, sydd wedi’i phenodi’n brif feddyg imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar.
Ymysg y siaradwyr eleni mae Dr Jamie Findlow o’r Asiantaeth Diogelu Iechyd sy’n gwneud cyflwyniad ar frechlyn newydd llid yr ymennydd B a’r Athro Jonathan Van-Tam o Brifysgol Nottingham sy’n siarad am frechu rhag y ffliw.
Bydd yr Athro Freda Stevenson o Brifysgol Southampton yn sôn am frechlynnau canser a bydd Tanis Hand o Goleg Brenhinol y Nyrsys yn mynd i’r afael ag imiwneiddio Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.
Mae’r gynhadledd yn cyd-daro ag Wythnos Imiwneiddio Ewrop, sef wythnos ryngwladol i godi ymwybyddiaeth a drefnir gan Sefydliad Iechyd y Byd a gynhelir rhwng 21 a 27 Ebrill.
Mae’n bosibl archebu lle drwy lenwi ffurflen archebu ar gyfer cynhadledd 2012.
Croesewir cyflwyniadau poster sy’n amlygu gwaith lleol ar imiwneiddio, y gellir ei gyflwyno ar nifer o ddalennau A4 yn hytrach nag ar un poster mawr, cyn 23 Mawrth. Mae rhagor o fanylion ar gael ar: www.publichealthwales.org/immunisationconf2012.
Mae rhagor o fanylion am Wythnos Imiwneiddio Ewrop 2012 ar gael yn: http://www.euro.who.int/en/what-we-do/health-topics/disease-prevention/vaccines-and-immunization/european-immunization-week.
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

