Cyhoeddi adroddiad tegwch iechyd llygaid Cwm Taf

Dydd Mercher, 18 Ionawr 2012
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi proffil ar degwch iechyd llygaid yng Ngwm Taf.
 
Diben y proffil oedd llywio prosiect ymgysylltu â’r gymuned sy’n cael ei ddatblygu gan yr Royal National Institute of Blind People (RNIB). Edrychodd y proffil ar ba ardal yng Nghwm Taf allai elwa ar brosiect yr RNIB gan ystyried lefelau amddifadedd a nifer y bobl hŷn yn yr ardal.
 
Dangosodd y proffil fod y mynediad i brofion llygaid a ariennir gan y GIG gan y rheiny sy’n derbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn gymharol isel a bod y niferoedd sy’n mynd am sgrinio retinopatheg diabetig yn amrywio ar draws ardal y bwrdd iechyd.
 
Edrychodd y proffil hefyd ar nifer y bobl â nam ar eu llygaid, retinopatheg diabetig, glawcoma, cataractau a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint.
 
Dywedodd Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un o awduron yr adroddiad: “Lle y bo’n bosibl, fe wnaethom edrych ar y ffordd yr oedd yr angen am ofal iechyd y llygaid yn ymwneud â darpariaeth gwasanaethau.  Canfuom ar gyfer cataractau, fod darpariaeth y gwasanaethau’n ymddangos yn weddol debyg mewn perthynas ag angen â mannau eraill yng Nghymru.
 
“Fodd bynnag, roedd ymgymeriad Archwiliad Iechyd Gofal Llygaid Cymru, sy’n cael ei gynnig i bobl â mwy o berygl o ddatblygu clefyd y llygaid, yn amrywio ar draws Cwm Taf ac o’i gymharu ag ardaloedd eraill yn Ne Ddwyrain Cymru.
 
“Yn aml, nid yw’r wybodaeth yr hoffem ei chael ar gyflyrau llygaid ar gael; er enghraifft, ni chawsom lawer o wybodaeth ar gyflyrau fel dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint.”
 
 “Mae colli golwg yn cael effaith fawr ar fywydau pobl ac mae ataliaeth yn eithriadol o bwysig.  Mae’r proffil hwn wedi cael ei drafod gyda’r RNIB a rhanddeiliaid, er mwyn gallu datblygu’r prosiect ymgysylltu â’r gymuned.  Mae’r RNIB yn mynd i ganolbwyntio ar glawcoma yn Nhreherbert, Maerdy, Glynrhedynog a Tylorstown ar gyfer eu prosiect.”
 

Dolenni

 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com