Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2012
Mae adroddiad ar gyfer Trywydd Iechyd Atgenhedlol a’r Blynyddoedd Cynnar wedi cael ei gyhoeddi sy’n amlygu’r cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod un y rhaglen.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu trywydd ar gyfer rhaglen iechyd y cyhoedd atgenhedlol a’r blynyddoedd cynnar fydd yn cefnogi’r weledigaeth strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru, y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant ac Ein Dyfodol Iach. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd ar y ddau becyn gwaith:
- Coladu a gwneud sail dystiolaeth yr ymchwil yn hygyrch ar gyfer ymyriadau i wella canlyniadau genedigaethau a’r blynyddoedd cynnar
- Mapio rhaglenni sydd wedi eu sefydlu ar hyn o bryd a’u heffaith mewn lleoliadau yng Nghymru.
Yn dilyn gweithdy rhanddeiliaid ym mis Ebrill, cafodd yr angen am fonitro rheolaidd a monitro dangosyddion atgenhedlol a’r blynyddoedd cynnar ei nodi a chafodd rhestr o ddangosyddion ei datblygu.
Yn ystod cam un o’r rhaglen, cafodd argaeledd ac ansawdd data sy’n ofynnol i ddatblygu dangosyddion ei asesu gan ddangos bylchau yn y data sydd ar gael ar draws y byrddau iechyd gwahanol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r gwaith a wnaed i fapio ymyriadau cyfredol iechyd mamau a phlant ledled Cymru ac mae’n gwneud argymhellion i flaenoriaethu gwaith yn ymwneud â smygu a gordewdra mewn beichiogrwydd.
Dywedodd Dr Shantini Paranjothy, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Trywydd Iechyd Atgenhedlol a’r Blynyddoedd Cynnar, “Mae’r adroddiad hwn yn dod â’r holl waith caled a wnaed yn ymwneud â’r prosiect ers iddo ddechrau ynghyd.
“Mae’r rhaglen hon wedi dod â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol ynghyd ar draws y GIG i gydweithio a chanolbwyntio ar wella iechyd a lles plant yng Nghymru.
“Rydym bellach yn gweithio ar gyfnod gweithredu’r rhaglen, pan fyddwn yn datblygu rhaglen wyliadwriaeth ac yn defnyddio data i asesu effaith yr ymyriadau sydd wedi eu sefydlu ar hyn o bryd er mwyn gwella iechyd y blynyddoedd cynnar.”
DOLENNI
- Tudalennau gwe atgenhedlol a’r blynyddoedd cynnar
- Adroddiad cynnydd rhaglen trywydd iechyd atgenhedlol a’r blynyddoedd cynnar
- Atodiad 1 – adroddiad gweithdy atgenhedlol a’r blynyddoedd cynnar Ebrill 2011
- Atodiad 2 – Crynodeb o’r wybodaeth a’r ffynonellau data ar gyfer dangosyddion
- Atodiad 3 – Adroddiad gwyliadwraeth ffug
- Atodiad 4 – Crynodeb o’r canfyddiadau ar gyfer rhoi’r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd
- Atodiad 5 – Ymarfer mapio ymyriadau cyfredol iechyd mamau a phlant yng Nghymru
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

