Erthyglau ar wella awyru mewn cartrefi plant sy’n dioddef o asthma

Dydd Mercher, 11 Ionawr 2012
Mae’r British Journal of General Practice wedi cyhoeddi dwy erthygl a ysgrifennwyd gan aelodau o Dîm iechyd Cyhoeddus Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Prifysgolion Caerdydd, Bangor a Lerpwl, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
 
Mae’r erthygl gyntaf yn disgrifio hap-dreial amlasiantaeth wedi’i reoli a gynhaliwyd i brofi effeithiau gwella systemau awyru a gwresogi yng nghartrefi plant ysgol sy’n dioddef o asthma. Mae’r gwaith ar y treial eisoes wedi ennill Gwobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus y DU a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau GIG Cymru 2009 hefyd.
 
Roedd y treial ‘Children’s Health in Asthma: Research to Improve Status through Modifying Accommodation (CHARISMA)’ yn dreial ar y cyd rhwng llywodraeth leol, y GIG a chydweithwyr academaidd. Yn ogystal â chreu prosiect ymchwil i gasgu tystiolaeth yn y meysydd iechyd a thai a gwella iechyd a lles plant ysgol sydd ag asthma, mae CHARISMA hefyd yn edrych ar ffyrdd mwy effeithiol a gwahanol o ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol er mwyn gwella iechyd a lles ac yn ategu gwasanaeth gofal iechyd presennol a ddarperir mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
 
Dechreuodd treial CHARISMA yn 2004 pan gafodd teuluoedd cymwys eu nodi a’u recriwtio. Edrychodd y treial ar effeithiolrwydd gwella systemau awyru ac mewn rhai achosion wres canolog, yng nghartrefi plant a chanddynt asthma cymedrol neu ddifrifol. Roedd yn cynnwys bron 200 o blant a nodwyd drwy feddygfeydd teulu yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cafodd cartrefi’r cyfranogwyr eu harolygu gan yr awdurdod lleol cyn cael eu rhannu ar hap yn grwpiau a fyddai wedi cael gwell systemau awyru a gwresogi ar unwaith (grŵp ymyriadau) neu a fyddai’n gofod aros am 12 mis i welliannau gael eu gwneud (grŵp rheoli). Nod y treial oedd gweld p’un a oedd gwelliannau mewn awyru a gwresogi cartrefi plant sy’n dioddef o asthma yn cael effaith ar asthma’r plant a hefyd ar ansawdd cyffredinol eu bywydau a’u lles.
 
Daw’r astudiaeth i’r casgliad bod gosod systemau awyru a gwres canolog yn gwella ansawdd bywydau plant a chanddynt asthma cymedrol neu ddifrifol yn sylweddol. Roedd problemau iechyd corfforol a seicogymdeithasol y plentyn yn gwella hefyd. Yn ogystal gallai’r ymyriad leihau absenoldeb o’r ysgol a gwella iechyd brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r cartref.
 
Mae’r ail erthygl a gyhoeddwyd yn disgrifio astudiaeth o gost-effeithiolrwydd a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r hap-dreial wedi’i reoli. Canfu fod ymagwedd wedi’i theilwra fel hon tuag at wella tai plant a chanddynt asthma cymedrol i ddifrifol yn debygol o fod yn ddefnydd da a chost-effeithiol o adnoddau cyhoeddus.
 
Yn dilyn canlyniadau cadarnhaol y treial, yn ystod 2010/2011 cafodd 50 o gartrefi eu haddasu drwy gysylltu â phob meddygfa yn Wrecsam ac yn ystod 2011/2012 bydd 15 o gartrefi eraill yn cael eu haddasu.
 
Meddai Louise Woodfine, Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hwn yn brosiect arloesol a chost-effeithiol sydd wedi gwella asthma ymysg plant ac ansawdd cyffredinol eu bywydau ac sydd wedi dangos manteision gwirioneddol gweithio mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol, y GIG a’r byd academaidd. Gall asthma gael effaith drychinebus ar blant a’u teuluoedd ac mae’n hawdd diystyru’r effaith hon. Mae gan CHARISMA y potensial i wella bywydau miloedd o blant sy’n dioddef o asthma a’u teuluoedd yn ogystal â helpu i atal plant rhag cael eu hanfon i’r ysbyty bob blwyddyn.
 

Dolenni:

 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com