Dydd Llun, 9 Ionawr 2012
Yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o lid feirysol y stumog, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi hysbysiad i atgoffa pawb sydd â dolur rhydd neu’n chwydu neu unigolion o gartrefi lle mae gan bobl y symptomau hyn na ddylent ymweld â chleifion yn yr ysbyty.
Dylai unrhyw un sydd â symptomau llid feirysol y stumog aros gartref tra’u bod yn anhwylus ac am 48 awr wedi hynny er mwyn osgoi lledaenu’r salwch i bobl eraill.
Mae’n arbennig o bwysig osgoi cleifion sydd yn yr ysbyty ac mewn cyfleusterau gofal hirdymor oherwydd gall dal llid feirysol y stumog gynyddu hyd salwch pobl sy’n agored i niwed.
Dymuna Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd achub ar y cyfle hwn i gynghori cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty y dylent hysbysu’r meddyg sy’n eu hanfon i’r ysbyty os ydyn nhw neu gyswllt â’r cartref wedi cael llid feirysol y stumog yn ystod y 48 awr diwethaf.
Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, mae’n syniad da aros gartref os ydych wedi cael dolur rhydd neu wedi bod yn chwydu ac i beidio dychwelyd i’r gwaith, yr ysgol neu ymweld â chleifion yn yr ysbyty nes bod y symptomau wedi clirio am 48 awr.
“Fodd bynnag, rydym yn arbennig o awyddus i roi’r cyngor hwn nawr am fod sawl achos wedi bod mewn ysbytai yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi cau wardiau, a gellir osgoi achosion pellach wrth i bobl ag anhwylderau’r stumogau osgoi ysbytai.
“Mae llid feirysol y stumog yn amhleserus ond fel arfer mae’n clirio o fewn 24 i 48 awr. Os yw’r symptomau’n parhau ar ôl 48 awr, fe’ch cynghorir i gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu i fynd i weld eich meddyg teulu.”
Gellir trosglwyddo llid feirysol y stumog yn hawdd o berson i berson a gall achosion fod yn anodd eu rheoli mewn cymunedau caeëdig fel ysbytai a chartrefi nyrsio.
Er ei bod yn anodd atal achosion yn y gymuned, gellir lleihau’r graddau y caiff llid feirysol y stumog ei ledaenu trwy ddilyn y pum cam canlynol os oes gennych symptomau:
-
Golchi dwylo yn ofalus yw’r cam ataliol pwysicaf y gallwch ei gymryd. Golchwch eich dwylo yn drwyadl gyda sebon a dŵr cynnes a’u sychu wedi hynny. Peidiwch rhannu tywelion
-
Defnyddiwch fenig wrth ymdrin ag eitemau budr pobl sy’n sâl. Golchwch ddillad a dillad gwely budr ar ‘gylch golchi poeth’
-
Os ydych yn gofalu ar ôl rhywun â llid feirysol y stumog, diheintiwch seddi toiled, dolenni tynnu dŵr, tapiau basn golchi dwylo a dolenni drws y toiled bob dydd ac ar ôl eu defnyddio. Defnyddiwch lanhäwr cartref yn cynnwys cannydd, wedi ei wanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
-
Dylech sicrhau hylendid personol da a hylendid wrth baratoi a gweini bwyd
-
Os oes gennych lid feirysol y stumog, peidiwch dychwelyd i’r ysgol neu’r gwaith nes bod y symptomau wedi clirio am 48 awr. Peidiwch ymweld â chleifion mewn ysbytai lleol a chyfleusterau gofal hirdymor. Er bod llawer o bobl yn tueddu i deimlo’n well cyn hyn, gallant ledaenu’r salwch o hyd os byddant yn dychwelyd i’r gwaith neu’r ysgol o fewn 48 awr ar ôl y symptom olaf
Am nad yw pobl â llid feirysol y stumog yn cael eu cynghori i gael sylw meddygol, ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu data gwyliadwriaeth ar achosion o lid feirysol y stumog yng Nghymru fel mater o drefn ac ni all ddweud sawl achos sydd yn y gymuned ar hyn o bryd.
Mae mwy o wybodaeth am lid feirysol y stumog ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44200
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

