Galwad am bapurau ar gyfer Cynhadledd Diogelu Iechyd y Pum Gwlad

Dydd Mercher, 4 Ionawr 2012
Gwahoddir papurau ar gyfer Cynhadledd Diogelu Iechyd y Pum Gwlad eleni, sy’n cael ei chynnal yn Iwerddon.
 
Cynhelir y gynhadledd flynyddol mewn partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, Health Protection Scotland, Asiantaeth Diogelu Iechyd Gogledd Iwerddon, Canolfan Arolygu Diogelu Iechyd Gweriniaeth Iwerddon a Grŵp Amgylcheddol Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus.
 
Caiff ei threfnu gan wlad wahanol bob blwyddyn ac eleni caiff ei chynnal yng Ngwesty Europa, Belfast, rhwng dydd Mawrth 1 Mai a Dydd Mercher 2 Mai.
 
Nod cynhadledd y Pum Gwlad yw rhoi ffocws ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i ymgynghorwyr rheoli clefydau trosglwyddadwy ac arbenigwyr mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus a’u cydweithwyr ym meysydd epidemioleg a rheoli clefydau heintus a chlefydau nad ydynt yn heintus a pheryglon amgylcheddol.
 
Bydd y gynhadledd yn mynd i’r afael â materion iechyd cyhoeddus pwysig sydd wedi codi ers y cyfarfod diwethaf ac yn edrych o’r newydd ar feysydd sefydledig rheoli ac atal clefydau.
 
Gwahoddir papurau ar gyfer y gynhadledd a dylid eu cyflwyno erbyn dydd Sul 12 Chwefror drwy wefan y gynhadledd yn www.5nations.com
 
Gwahoddir cyflwyniadau ar bynciau yn cynnwys heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, arolygu, achosion o glefydau, heintiau a geir drwy deithio, iechyd rhywiol a phynciau llosg.
 
Bydd sesiynau posteri hefyd yn cael eu cynnal ar y ddau ddiwrnod. 
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com