Dydd Iau, 20 Hydref 2011
Mae data a gesglir gan Google Analytics ar sut mae ymwelwyr wedi rhyngweithio â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod mis Medi 2011 bellach ar gael.
Rhwng 1-30 Medi 2011 cofnodwyd 8,746 o ymweliadau â’r wefan Saesneg gan 5,929 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 29,161 o dudalennau. O blith yr ymweliadau hyn, roedd 51 y cant yn ymweliadau newydd h.y. gan ymwelwyr nad oeddent wedi ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r blaen. Ar gyfartaledd roedd ymwelwyr yn edrych ar ychydig dros dair tudalen yn ystod pob ymweliad ac yn treulio dros ddau funud ar y wefan.
Mae’r canlyniadau hyn bron yn union debyg i’r rhai a gofnodwyd ar gyfer Awst 2011 [gweler: Cyhoeddi ystadegau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer mis Awst 2011]. Roedd nifer yr ymweliadau a nifer y tudalennau yr edrychwyd arnynt ym mis Medi 2010 yn uwch na’r rhai a gofnodwyd ar gyfer yr un cyfnod eleni [ffigur 1]. Gellid priodoli’r gwahaniaeth hwn i’r sylw a roddwyd ar y wefan i achos o glefyd y Llengfilwyr yng Nghymoedd y de yn ystod mis Medi 2010, a arweiniodd at ymwelwyr ychwanegol â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (gweler: Adroddiad ar y defnydd o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod ei blwyddyn gyntaf (Ebrill 2010-Mai 2011) [Word, 542Kb] am ragor o fanylion). Felly, nid yw’r canlyniadau hyn yn arwydd o ostyngiad cyffredinol yn y defnydd o’r wefan ond yn hytrach maent yn amlygu pa mor effeithiol yw’r wefan o ran dosbarthu gwybodaeth yn ystod digwyddiad iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Ffigur 1: Ymweliadau Wythnosol â Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 01/09/2011-30/09/2011 [glas] a 01/09/2010-30/09/2010 [oren]

Trosolwg
Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, cofnodwyd 242 o ymweliadau gan 143 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 700 o dudalennau. Roedd 45 y cant o’r ymweliadau’n rhai newydd (cynnydd o gymharu â 30 y cant o ymweliadau newydd ar gyfer mis Awst 2011), ac ar gyfartaledd treuliodd yr ymwelwyr dri munud ar y wefan gan edrych ar bedair tudalen yn ystod pob ymweliad.
Rhestrir y pymtheg tudalen yr ymwelwyd â hwy amlaf yn y tabl isod:
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (y wefan Saesneg)
|
Teitl y Dudalen (y wefan Gymraeg)
|
|
1
|
Hafan (Home)
|
|
|
2
|
Search
|
Chwilio (Search)
|
|
3
|
Newyddion (News Index)
|
|
|
4
|
Gordewdra (Obesity)
|
|
|
5
|
Bwyta, gweithgaredd corfforol a gordewdra (Eating, Physical Activity and Obesity),
|
|
|
6
|
Afiechydon a Chyflyrau (Diseases and Conditions)
|
|
|
7
|
Amdanom ni (About us)
|
|
|
8
|
Rhyngweithiol (Interactive)
|
|
|
9
|
Adroddiad a gyhoeddwyd ar Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (Report published on Chronic Obstructive Pulmonary Disease)
|
|
|
10
|
Pynciau Iechyd (Health Topics)
|
|
|
11
|
||
|
12
|
Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (Programme of CPD)
|
|
|
13
|
Ymchwiliad Hanson Cement (Hanson Cement Investigation)
|
|
|
14
|
Aelodau'r Grŵp y Bwrdd ac Uwch Reolwyr (Public Health Wales Board)
|
|
|
15
|
Cyhoeddiadau (Publications)
|
Yn ôl y disgwyl, mae’r rhan fwyaf o’r tudalennau cynnwys mwyaf poblogaidd yn dudalennau gwelywio ac mae wyth o dudalennau’n ymddangos yn y pymtheg uchaf ar gyfer dwy fersiwn y wefan.
Yn ogystal, rhestrir y deg tudalen lanio fwyaf poblogaidd isod. Tudalen lanio yw’r dudalen y mae ymwelydd yn ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan. Mae’n ddiddorol nodi bod pedwar clefyd yn ymddangos ar y rhestr hon ac mae’n debygol bod ymwelwyr wedi glanio ar y tudalennau hyn drwy gynnal chwiliad ar Google (neu beiriant chwilio arall) o’r cyflyrau hyn.
|
Safle
|
Title y Dudalen (Saesneg)
|
|
1
|
|
|
2
|
|
|
3
|
|
|
4
|
|
|
=5
|
|
|
=5
|
|
|
=5
|
|
|
8
|
|
|
9
|
|
|
10
|
Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, yr hafan oedd yr unig dudalen lanio arwyddocaol.
Mae ein Polisi Preifatrwydd, y ceir dolen iddo ar waelod pob un o dudalennau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn berthnasol i bob gwybodaeth a gesglir neu a gyflwynir i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i’r defnydd o Google Analytics i fonitro gweithgaredd defnyddwyr. Gellir darllen ein Polisi Preifatrwydd yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/47461
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru




