Dydd Mercher, 19 Hydref 2011
Mae Dr Hugo van Woerden wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr yr Is-adran Iechyd a Gwella Gofal Iechyd.
Gwnaethpwyd y penodiad ar ôl proses gystadleuol. Mae’n dilyn penodiadau diweddar i rolau is-adrannol eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar hyn o bryd caiff Dr van Woerden ei gyflogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC). Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Tachwedd. Nid yw lleoliad y swydd wedi’i gytuno eto.
Mae rôl Cyfarwyddwr Gwella Iechyd a Gofal Iechyd yn cael ei thrin yn yr un ffordd â rôl y Cyfarwyddwyr Is-adrannol yng Nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a chyfarwyddwyr clinigol byrddau iechyd. Bydd y rôl am bedair blynedd i ddechrau ac yn cael ei hadolygu ar ôl tair blynedd.
Meddai Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bob Hudson: “Mae’n bleser cyhoeddi penodiad Hugo, sy’n gam pwysig arall ymlaen o ran cwblhau ein strwythurau rheoli. Rwy’n hyderus y bydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni ein gweledigaeth o Gymru iachach, hapusach a thecach.”
Mae’r Is-adran Gwella Iechyd a Gofal Iechyd yn rhan o Gyfarwyddiaeth Datblygu Iechyd Cyhoeddus, ac o 1 Tachwedd, caiff ei rhedeg gan y cyfarwyddwr gweithredol newydd, Dr Peter Bradley. Mae’n cynnwys staff sy’n gweithio ar lefel Cymru gyfan ym maes gwella iechyd ac ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Ymysg y timau o fewn yr adran mae Dim Smygu Cymru, Iechyd yn y Gweithle, Gwella Ansawdd Gofal Iechyd, Oedolion sy’n Agored i Niwed ac Iechyd Cyhoeddus Fferyllol.
Dolenni
- Penodi tri chyfarwyddwr is-adrannol i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus (7 Hydref 2011)
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru




