Dydd Gwener, 23 Medi 2011
Bydd rhaglen wedi ei chynllunio i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall patrymau twf plant ar draws Cymru yn dechrau mis yma.
Bydd y Rhaglen Mesur Plant – rhaglen genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – yn casglu gwybodaeth ar daldra a phwysau pob plentyn o oed dosbarth derbyn yng Nghymru.
Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi gan weithwyr iechyd proffesiynol ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn ceisio nodi tueddiadau a monitro iechyd plant yng Nghymru.
Dywedodd Dr Judith Greenacre, Cyfarwyddwr Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae’r Rhaglen hon yn bwysig iawn oherwydd bydd yn ein galluogi ni i gymharu canlyniadau ar lefel byrddau iechyd.
“Am y tro cyntaf, bydd gennym ddata cyson ar ordewdra mewn plentyndod ar lefel leol er mwyn mesur ein cynnydd gyda’r elfen bwysig hon ym maes iechyd y cyhoedd.
“Trwy nodi tueddiadau allweddol ym mhob ardal, byddwn hefyd yn gallu cynllunio ein gwasanaethau iechyd yn well.”
Elfen allweddol arall o’r Rhaglen yw safoni mesur taldra a phwysau er mwyn sicrhau bod y data sy’n cael ei ddarparu yn gyson.
Dywedodd Dr Ciaran Humphreys, ymgynghorydd Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd o nodi a monitro tueddiadau cenedlaethol a chymharu rhwng ardaloedd gwahanol am fod yr adegau a’r ffordd y mae plant yn cael eu mesur yn amrywio.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru, gan fod gan Gymru’r cyfraddau gordewdra uchaf yn Ewrop ymysg plant ysgol uwchradd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’i randdeiliaid er mwyn safoni’r ffordd y mae pob plentyn dosbarth derbyn yn cael ei fesur ar draws y wlad.”
Mae sefydlu’r rhaglen yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb lwyddiannus a wnaed yn 2009 gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chefnogaeth sefydliadau eraill yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan dîm o dan arweiniad Dr Ciaran Humphreys mewn 457 o ysgolion yng Nghymru i brofi dichonoldeb mesur pob plentyn yn y dosbarth derbyn a blwyddyn 4 er mwyn nodi tueddiadau o ran taldra a phwysau mewn plentyndod. Argymhellodd yr adroddiad fod rhaglen genedlaethol taldra a phwysau mewn plentyndod yn cael ei sefydlu er mwyn helpu i lywio datblygu strategaeth a gwasanaeth a rhoi sylfaen ar gyfer mwy o ymchwil yn y maes.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dderbyniodd yr adroddiad a’i argymhellion.
Bydd y gwaith mesur yn dechrau yn y dosbarth derbyn ac yn cael ei wneud gan nyrs yr ysgol a gall ddigwydd ar y cyd â’r gwiriadau iechyd arferol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru www.publichealthwales.org/childmeasurement.
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru




