Lansio Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd

Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010
Mae Rhwydweithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Cynllun Arfer da Iechyd y Cyhoedd gyda chyfres o weithdai ar draws Cymru.
 
Mark safon arfer daNod y cynllun, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers dwy flynedd, yw adnabod a chefnogi arfer da mewn mentrau ym maes maeth, gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl ac iechyd rhywiol. Mae cronfa ddata wedi cael ei datblygu sy’n rhoi dull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau er mwyn atal dyblygu, gwella dysgu a galluogi penderfyniadau ynglŷn â pha fentrau i’w mabwysiadu neu eu datblygu.
 
Bydd marc safon yn cael ei ddyfarnu i brosiectau yr ystyrir eu bod wedi cyflawni arfer da gan y Panel Cynghori ar Arfer Da wedi ei gadeirio gan Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Syr Mansel Aylward.
 
Cafodd y cynllun ei lansio mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws Cymru gan y rhwydweithiau er mwyn i ymarferwyr ganfod mwy am y cynllun a sut y gallai fod o fudd i’w prosiect neu eu sefydliad.
 
Mynychodd dros 100 o bobl ar draws ystod o sefydliadau, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wrando ar gyflwyniadau ar gefndir y cynllun, ac astudiaeth achos i ddangos y broses ar waith. Cafwyd trafodaethau grŵp hefyd i archwilio’r hyn y byddai’r cynllun yn ei olygu i ymarferwyr ac i gysylltu â mentrau y maent yn gysylltiedig â nhw.
 
Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward: “Mae’n bleser gennyf fod yn rhan o’r cynllun rhagorol hwn. Rwy’n credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo a rhannu arfer da ac mae’r cynllun hwn yn gyfle da i wneud hynny.”
 
Dywedodd Malcolm Ward, Arbenigwr Hybu Iechyd y Cyhoedd, “Roedd y digwyddiadau yn ffordd ragorol i gydlynwyr y rhwydwaith ddod allan a chyfarfod â’r rheiny sy’n gweithio ym meysydd amrywiol iechyd y cyhoedd. Mae’r adborth yr ydym wedi ei gael ar y cynllun wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ymarferwyr er mwyn adnabod arfer da.”
 
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalennau gwe y pedwar rhwydwaith cysylltiedig:
 
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com