Cofrestrwch i Newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dilynwch ni ar:

Ein Tweets diweddaraf:

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol gyntaf Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan

Dydd Llun, 14 Ionawr 2008
‘Cymhellion a Chyfleoedd: Gwella iechyd a lles meddwl yng Nghymru – pam a sut’

Cynhadledd Flynyddol gyntaf Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar 14 Mawrth, 2008 yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod a bydd yn gyfle i lansio’r Rhwydwaith yn swyddogol.

Caiff y gynhadledd ei chadeirio gan yr Athro Mansel Aylward CB ac mae’r siaradwyr yn cynnwys:

  • Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Phil Chick, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Gregor Henderson, Cyfarwyddwr Rhaglen a Chynghorydd, Gweithrediaeth yr Alban
  • Steve Thomas, Prif Weithredwr, CLlLC

Un o brif elfennau’r gynhadledd fydd y 5 gweithdy sy’n canolbwyntio ar: Plant/Addysg, y Gweithle, y Gymuned, yr Amgylchedd, Lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd pob gweithdy’n cynnwys cyflwyniadau byr gan arbenigwyr yn y maes perthnasol a chyfle i gael trafodaethau manwl. 

I gofrestru cwblhewch y ffurflen isod neu cysylltwch â Nathan Jones
Ffôn: 02920 227 744
E-bost: Nathan.Jones@wch.wales.nhs.uk
Cyfeiriad: 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ

Ffurflen gofrestru

Hysbyslen

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com