Dydd Mercher, 14 Mawrth 2012
Chapter Arts Centre, Caerdydd
Digwyddiad am ddim DPP ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd er mwyn galluogi’r cyfranogwyr i gynyddu effeithiolrwydd cyfleoedd dysgu y maen nhw, eu timau a grwpiau eraill yn cymryd rhan ynddynt.
Amser: 12.30pm-4.30pm
Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â safon Arbenigol KH42 - ‘Ffyrdd y mae unigolion a thimau’n dysgu a manteision ac anfanteision dulliau gwahanol’ a Safon 4c Maes 1 safon Ymarferydd - ‘Datblygu a gwella eich ymarfer eich hun ac ymarfer pobl eraill yn barhaus ym maes iechyd y cyhoedd trwy ymwybyddiaeth o ddulliau a dewisiadau gwahanol o ddysgu.’
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y cynadleddwyr:
- Yn gwybod damcaniaeth allweddol am gylch dysgu
- Yn deall bod gan bobl ystod o ddulliau dewisol gwahanol o ddysgu
- Yn egluro eu dull dewisol eu hunain a’r ffordd y gallai hyn ddylanwadu ar y ffordd y maent yn cefnogi dysgu gan eraill
- Yn deall sut i ddefnyddio damcaniaeth datblygu grŵp i wella dysgu mewn grwpiau
- Yn gwybod fframwaith syml ar gyfer cynllunio digwyddiadau a phrosesau dysgu effeithiol, yn cynnwys sut i ddewis dulliau priodol
Mae’r digwyddiad yn berthnasol ar gyfer:
- Pob gweithiwr iechyd proffesiynol/gweithiwr iechyd (er enghraifft, unrhyw un y mae ei rôl yn effeithio ar iechyd a lles unigolion / cymunedau / poblogaethau)
Sut i wneud cais:
- Gellir mynychu’r digwyddiad am ddim [Bydd methu mynychu heb roi 48 awr o rybudd yn arwain at ffi weinyddol o £45 fesul cynadleddwr]
- I gadw lle llenwch a dychwelwch y ffurflen gofrestru
- Mae’r lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’
Cyn y digwyddiad:
- Wrth dderbyn y ffurflenni cofrestru, bydd unigolion yn cael e-bost yn cadarnhau bod ganddynt le; darperir cyfarwyddiadau ymuno hefyd
Lawrlythiadau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â POD@wales.nhs.uk neu ffoniwch 029 2082 7642.

