Dydd Gwener 22 Hydref 2010
Wrecsam, Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndwr
Mae Rhwydweithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd i ddatblygu dull systematig o adolygu, cefnogi a gwobrwyo arfer da mewn mentrau iechyd y cyhoedd ar draws Cymru.
Nod y pedwar digwyddiad rhanbarthol hyn yw rhoi cefndir i ymarferwyr sydd yn gweithio ym maes maeth, gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl ac iechyd rhywiol ar ddatblygu Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd, y broses a buddion cyflwyno mentrau i’r Cynllun ac enghreifftiau o astudiaethau achos. Bydd hefyd yn gyfle i ffurfio datblygiad parhaus Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd.
Mae’r digwyddiadau wedi eu hanelu at bob ymarferydd sy’n gysylltiedig â chynllunio, datblygu a rheoli mentrau iechyd y cyhoedd ar draws Cymru, yn arbennig y rheiny sydd yn gweithio gyda phrosiectau hybu iechyd, gwella iechyd a datblygu iechyd. Yn ogystal â’r prif gyflwyniadau bydd cyfle hefyd i rwydweithio gyda chyd-ymarferwyr.
Mae’r digwyddiadau am ddim i’w mynychu a darperir cinio bwffe ym mhob lleoliad. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig iawn felly archebwch yn gynnar.
Mwy o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen archebu a rhaglen ar gael: