Ymgysylltu â Rhaglen De Cymru i ddechrau fis Medi

Dydd Llun, 6 Awst 2012
MAE’R chwe bwrdd iechyd sy’n darparu gwasanaethau’r GIG yn Ne Cymru wedi bod yn cydweithio gyda meddygon, nyrsys, bydwragedd a therapyddion i edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd.
Yn ystod Mai a Mehefin, cyfarfu mwy na 300 o glinigwyr mewn cyfres o uwchgynadleddau a gweithdai i drafod y ffordd orau o ddarparu rhai o wasanaethau’r ysbytai i sicrhau bod pob claf yn cael y gofal o’r safon uchaf pryd bynnag y bydd ei angen.
 
Mae’r trafodaethau wedi canolbwyntio ar sut y mae’r GIG yn cyflawni safonau a chanllawiau proffesiynol wrth iddynt wneud y defnydd gorau o’r gweithlu meddygol a chlinigol presennol i wella’r gofal a roddir i gleifion, i gynyddu ansawdd a safonau a gwella’r canlyniadau i gleifion pan fyddant yn cael anafiadau mawr, salwch neu broblemau wrth roi genedigaeth.
 
Mae Bwrdd Rhaglen De Cymru, sy’n cynnwys cadeiryddion a phrif weithredwyr y chwe bwrdd iechyd, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r clinigwyr i archwilio’u syniadau ynghylch diwyg y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.
 
Bydd y gwaith yma’n cael ei drafod yn helaeth gyda staff y GIG a’r cyhoedd ym mhob rhan o Dde Cymru fel rhan o’r broses ymgysylltu cyn datblygu unrhyw ddewisiadau ffurfiol ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol.
 
Dywedodd Andrew Goodall, prif weithredwr arweiniol Rhaglen De Cymru: “Wedi ystyried cyngor y cynghorau iechyd cymuned, a chan wybod y bydd llawer o bobl i ffwrdd yn ystod mis Awst, mae cadeiryddion y byrddau iechyd wedi penderfynu, er mwyn gallu ymgysylltu’n agored ac yn ddidwyll, y byddant yn gohirio dechrau’r broses nes ar ôl tymor y gwyliau haf.
 
“Disgwylir y bydd cyfarfod arbennig o’r byrddau iechyd yn cael ei gynnal fis Medi i benderfynu ar fanylion a phroses ymgysylltu ynghylch dyfodol gwasanaethau’r ysbytai dan sylw. Yna bydd yr ymgysylltu’n dechrau mewn gwirionedd.
 
“Bydd byrddau iechyd De Cymru’n defnyddio cyfnod yr haf i ddatblygu ymhellach a mireinio’u cynlluniau ymgysylltu, a chydweithio’n agos â staff y GIG, sefydliadau sy’n bartneriaid a chydweithwyr yn y Cynghorau Iechyd Cymuned i sicrhau bod pob carfan â diddordeb yn cael ei chynnwys yn y broses ymgysylltu o hyn allan.”
 
Nodiadau i Olygyddion
Y chwe bwrdd iechyd sy’n ymwneud â Rhaglen De Cymru yw: Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
 
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wrthi’n datblygu ei ddewisiadau ei hun i gyflinio’r gwasanaethau ysbyty o fewn ei ffiniau, ond bydd rhai o’r gwasanaethau dan sylw yn Ne Cymru yn effeithio ar gleifion sy’n byw o fewn ffiniau byrddau iechyd Hywel Dda a Phowys.
 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Madeleine Brindley, pennaeth cysylltiadau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf ar 01443 744 812 neu anfonwch e-bost at madeleine.brindley@wales.nhs.uk