- pob un o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn darparu mynediad cyflymach i drin strôc;
- lleihad o 32 y cant yn yr achosion o heintiau C.difficile mwy na 600 yn llai o achosion a mwy na 30 o fywydau wedi’u harbed;
- y perfformiad cyson gorau gan y gwasanaeth ambiwlans ers dechrau casglu cofnodion;
- lleihad yn yr amser y mae cleifion yn aros yn yr ysbytai – mae’r amser sy’n rhaid i glaf aros yn yr ysbyty i osod clun newydd wedi disgyn o 7.2 i 6.2 diwrnod, a gosod pen-glin newydd wedi disgyn o 6.8 i 6 diwrnod.
- lleihad yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig, gan gynnwys cwymp o 25 y cant yn nifer yr aildderbyniadau ar gyfer cyflyrau anadlol.
- cyfraddau uchel o ran boddhad cleifion yn y ddarpariaeth o urddas mewn gofal gan staff;
- sicrhau cydbwysedd ariannol a gwireddu £290 o arbedion effeithlonrwydd; a
- lleihad yn amseroedd aros orthopedig.
Dywedodd David Sissling:
“Mae’n bleser gennyf nodi bod yna welliannau cyffredinol sy’n golygu bod y GIG wedi ymateb i’r her a osodwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, i ganolbwyntio’n anad dim ar gyflawni .
“Yn arbennig mae’r gwelliannau mewn gofal strôc yn sylweddol, gyda phob bwrdd iechyd bellach yn sicrhau mynediad cyflym i thrombolysis - cyffuriau chwalu clotiau sy’n gwella’r cyfraddau goroesi - 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi nodi mai GIG Cymru yw’r system sy’n gwella gyflymaf yn hanes eu harchwiliad ar wasanaethau strôc yn y DU.
“Mae ansawdd gofal yn gwella, er enghraifft gyda lleihad yn yr achosion o
C.difficile, lle mae’r cyfraddau ar gyfer nifer yr achosion yn is nag yn llawer o wledydd Ewrop.“Mae staff y GIG hefyd wedi gwneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros orthopedig, gan dorri i lawr ar dros 5,500 ar y rhestr aros hir yn ystod y flwyddyn.”
Dywedodd Mr Sissling fod angen gwneud rhagor o waith i gael gwared ar bob achos o restrau aros hir, a dylai’r GIG edrych ar driniaethau a oedd yn cynnig budd cyfyngedig.
“Gallai fod yn well trin rhai cyflyrau, megis poen cefn neu anafiadau pen-glin drwy ffisiotherapi yn hytrach na llawdriniaeth.
“Ac mae’n bosib na chaiff cleifion orthopedig sy’n ordew neu dros eu pwysau y canlyniadau gorau ar ôl, dyweder, gosod clun newydd am fod mwy o berygl iddynt gael eu haildderbyn i’r ysbyty - efallai y byddai’n well rhagnodi rhaglen colli pwysau yn lle hynny. “
Dywedodd Mr Sissling hefyd fod angen gwelliannau mawr eraill os yw’r GIG i fodloni’r heriau yn ei gynllun pum mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd, a chyflawni’r uchelgais a osodwyd gan Gomisiwn Bevan, sef gwasanaethau
'sy’n briodol i Gymru ond y mae modd eu cymharu â’r goreuon yn unrhyw le'.
“Mae’r ffaith fod y GIG wedi lleihau derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig mawr drwy ddarparu triniaeth yn agosach i gartrefi pobl, a lleihau’r angen am ofal i gleifion mewn ysbytai, ymysg y ffactorau sy’n hyrwyddo newid.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod angen inni foderneiddio ein gwasanaethau er mwyn adlewyrchu’n well y darlun o’r anghenion iechyd yng Nghymru sy’n newid.
“Dros y misoedd nesaf, bydd byrddau iechyd yn ymgynghori ar gynlluniau i wella eu gwasanaethau ac rwy’n annog cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan ac i fynegi eu barn.”