Achosion o’r frech goch ym Mhowys – Cofiwch gael eich brechu
Mae achosion o’r frech goch wedi taro plant ym Mhowys, gyda’r rhan fwyaf o’r achosion yng ngogledd y sir.
Cafwyd gwybod am 41 achos ym mis Mawrth, gyda bron i 20 yn yr wythnos ddiwethaf. Mae’r rhan fwyaf wedi bod yn blant oed ysgol, lle mae’r salwch yn gallu ymledu’n hawdd, ond mae’r frech goch yn gallu effeithio ar bobl o bob oed.
Mae’r frech goch yn glefyd difrifol sy’n gallu arwain at broblemau iechyd tymor hir megis anhwylderau’r llygaid, byddardod, niwed i’r ymennydd a hyd yn oed marwolaeth. Mae’n bwysig iawn fod pawb yn cael eu brechu rhan y clefyd hwn. Bydd un dos o bigiad yr MMR (y frech goch, clwy'r pennau a rwbela) yn diogelu 90% o blant a bydd y ddau ddos a argymhellir yn cynnig 99% o ddiogelwch rhag y frech goch. Mae pigiad yr MMR yn ddiogel a dyma’r unig beth sy’n gallu eich diogelu rhag y frech goch.
Ym Mhowys mae 1 o bob 4 o bobl ifanc heb gael y ddau bigiad MMR ac felly nid ydynt wedi’u diogelu’n llwyr rhag y frech goch. Mae’r pigiad yn gallu eich diogelu’n gyflym iawn ac nid yw’n rhy hwyr i sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n ddiogel.
Os nad ydych chi na’r teulu wedi derbyn y pigiad MMR, neu os nad ydych chi’n siŵr eich bod wedi’i dderbyn, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i drefnu i gael y pigiad.
Os ydych chi’n amau eich bod chi, neu rywun arall yn dioddef o’r frech goch, ffoniwch eich Meddyg Teulu cyn mynd i’r Feddygfa er mwyn lleihau’r perygl o heintio eraill. Dylech osgoi fynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys heblaw eich bod chi’n ddifrifol wael, ac os ydych chi’n mynd yno, galwch nhw o flaen llaw er mwyn rhoi gwybod iddynt eich bod chi neu eich plentyn o bosibl yn dioddef o’r frech goch.
I wybod mwy am y frech goch, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.
Diwedd

