Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes angen sylw meddygol arnoch pan fyddwch yn sâl. Mae'n esbonio beth mae pob un o wasanaethau'r GIG yn ei wneud, a phryd y dylid eu defnyddio.
Bydd dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi a'ch teulu y driniaeth orau. Mae hefyd yn caniatáu i wasanaethau prysuraf y GIG helpu'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.
Sut ydw i'n gwneud dewis doeth?
Cymerwch ychydig o amser i ddod i wybod mwy am yr amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd sydd ar gael ichi a'r hyn maen nhw'n ei gynnig:
- Yr Adran Damweinion ac Achosion Brys (A&E) neu 999
- Unedau Mân Anafiadau
- Meddygon Teulu
- Fferyllfeyydd
- Galw Iechyd Cymru
- Hunanofal
Yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) neu 999
Mae Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i'w canfod yn y rhan fwyaf o ysbytai. Maen nhw'n helpu pobl sy'n dangos arwyddion o fod yn sâl iawn neu sydd wedi'u hanafu'n wael.
Os ffoniwch 999 a dweud wrth y cysylltydd ffôn bod argyfwng meddygol, caiff cerbyd ymateb brys ei anfon atoch.
Pryd a Pham?
Mae gwasanaethau brys yn brysur iawn ac maen nhw'n mynd yn brysurach fyth. Dylid eu defnyddio o dan amgylchiadau difrifol iawn neu pan fydd bywyd yn y fantol yn unig. Mae dewis yn ddoeth yn sicrhau bod triniaeth hollbwysig yn cael ei rhoi cyn gynted â phosibl.
Unedau Mân Anafiadau GIG
Gallant drin salwch neu anaf nad yw'n ddifrifol a rhoi cyngor ichi mewn perthynas ag iechyd.
Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n agor yn gynnar yn y bore ac yn cau yn hwyr yn y nos. Nid oes angen apwyntiad arnoch, a chewch sylw gan nyrs neu feddyg teulu profiadol.
Pryd a Pham?
Pan fo angen triniaeth neu gyngor meddygol arnoch ond nad oes angen ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys na chael apwyntiad meddygol ar eu cyfer.
Mae dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi'r driniaeth orau posibl, gan adael gwasanaethau brys yn rhydd ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf.
Meddygon Teulu
Gallwch ddod o hyd i feddygfeydd meddygon teulu lleol ym mhob rhan o Gymru. Gallwch drefnu apwyntiad gyda meddyg er mwyn cael cyngor meddygol, archwiliadau, a phresgripsiynau.
Mewn argyfwng, gall meddyg teulu hefyd ymweld â chi yn eich cartref y tu allan i oriau agor arferol - os bydd angen y gwasanaeth hwn arnoch, ffoniwch eich meddygfa leol a dilyn cyfarwyddiadau'r neges a recordiwyd.
Pryd a Pham?
Trefnwch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu lleol pan fyddwch yn dioddef o salwch neu anaf nad yw'n gwella. Bydd dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi'r driniaeth sydd ei hangen arnoch, ac mae'n lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.
Fferyllfeydd
Gallwch ddod o hyd i fferyllfeydd lleol ym mhob rhan o Gymru. Gall eich fferyllydd lleol roi cyngor ichi ar wahanol fathau o salwch a'r moddion sydd eu hangen i'w trin.
Pryd a Pham?
Gallwch ymweld â'ch fferyllfa leol pan fyddwch yn dioddef o broblem iechyd gyffredin nad oes angen gweld nyrs neu feddyg ar ei chyfer.
Mae dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi'r driniaeth sydd ei hangen arnoch cyn gynted â phosibl, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG.
Galw Iechyd Cymru
Mae Galw Iechyd Cymru yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd cyfrinachol sydd ar gael 24 awr y dydd:
- Dros y ffôn: 0845 4647
- Ar y Rhyngrwyd: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
Pryd a Pham?
Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru os ydych yn sâl a bod gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas ag iechyd. Gall eich helpu hefyd i ddod o hyd i wasanaethau iechyd yn eich ardal chi.
Bydd dewis yn ddoeth yn sicrhau eich bod yn cael cyngor arbenigol cyn gynted â phosibl. Bydd hynny'n golygu y gall gwasanaethau prysuraf y GIG helpu'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.
Hunanofal
Gellir trin sawl math o salwch yn eich cartref trwy ddefnyddio meddyginiaethau dros y cownter a chael digon o orffwys.
Pryd a Pham?
Hunanofal yw'r dewis gorau ar gyfer trin salwch neu anaf nad yw'n ddifrifol.
Bydd dewis yn ddoeth yn sicrhau eich bod yn cael digon o amser i orffwys a gwella. Bydd hynny'n golygu y gall gwasanaethau prysuraf y GIG helpu'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.