Newyddion

Hidlo Newyddion
  • Y Gweinidog Iechyd yn clywed barn staff Ysbyty Gwynedd

    Dydd Mawrth, 16 Awst 2005, Llywodraeth Cymru
    Heddiw ymwelodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, ag Ysbyty Gwynedd i gwrdd â staff a gweld datblygiadau newydd yn yr ysbyty.

  • Atal twristiaeth iechyd

    Dydd Mawrth, 2 Awst 2005, Llywodraeth Cymru

    O 1 Awst ymlaen dim ond cleifion sy’n defnyddio presgripsiynau ‘Cymreig’ o feddygfeydd yng Nghymru a fydd yn gallu elwa ar daliadau presgripsiwn is yng Nghymru, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons.

  • Llyfrau llesol – Presgripsiwn newydd ar gyfer cleifion

    Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru

    Bellach, bydd cleifion sy’n cael problemau’n ymdopi â chyfnodau anodd bywyd, megis colli rhywun annwyl neu iselder ysbryd, yn cael cynnig amrywiaeth o lyfrau hunangymorth sydd wedi eu dewis gan weithwyr proffesiynol i ategu triniaethau traddodiadol fel rhan o fenter sy’n cael ei hehangu ledled Cymru.

  • Dr Brian Gibbons yn croesawu arolwg iechyd pwysig

    Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru

    Heddiw (Dydd Mercher, 27 Gorffennaf) croesawodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, y ffaith fod arolwg llawn ffeithiau wedi’i gyhoeddi ar gyflwr iechyd pobl, eu ffordd o fyw a’r ffordd y maen nhw’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd.

  • Profiad cleifion yn gwella yng Nghymru

    Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru
    "Mae nifer y cleifion sy’n disgwyl llai na chwe mis am driniaeth fel cleifion mewnol ac allanol yng Nghymru yn parhau i wella", meddai’r Gweinidog dros Iechyd Dr Brian Gibbons heddiw.

  • Amseroedd aros cardiaidd i ostwng yn y Gorllewin

    Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru

    Bydd cleifion sy'n dioddef o afiechydon y galon yn y Gorllewin yn cael diagnosis a thriniaeth cynt diolch i labordy cathetr newydd o’r radd flaenaf, a agorwyd gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, yn Ysbyty Treforys heddiw (dydd Iau, 21 Gorffennaf).

  • Cysylltu â phobl er mwyn lleihau risg trosglwyddo vCJD

    Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru
    Dechreuwyd heddiw (dydd Mercher, 20 Gorffennaf) ar y gwaith o ymestyn y rhagofalon i leihau’r risg o drosglwyddo vCJD o ganlyniad i drallwysiadau gwaed a llawdriniaethau.

  • Mwy o feddygon a nyrsys i Gymru

    Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2005
    Mae nifer y staff sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru yn parhau i gynyddu, meddai'r Gweinidog Dr Brian Gibbons heddiw (dydd Mercher, 13 Gorffennaf), yn dilyn ystadegau diweddaraf gweithlu'r GIG.

  • Gweithredu ar dwristiaeth iechyd

    Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru
    O 1 Awst ymlaen, dim ond cleifion sy’n defnyddio'r presgripsiynau newydd dwyieithog a gyflwynir gan bractisau yng Nghymru fydd yn gallu manteisio ar y taliadau llai a godir am bresgripsiynau yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd heddiw.

  • Ambiwlans sant ioan yn mynd o nerth i nerth

    Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2005, Llywodraeth Cymru

    Bydd y Gweinidog Iechyd, y Dr Brian Gibbons, yn trosglwyddo’r allweddi i wyth Ambiwlans Sant Ioan o’r math diweddaraf un, sydd wedi’u hariannu â £300,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn swyddogol mewn seremoni gyflwyno heddiw (dydd Sadwrn, 2 Gorffennaf).

     

  • Tew 'ta Ffit? Penderfynwch chi!

    Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2005
    Rhaid i bobl ymddwyn a meddwl yn wahanol os ydym am fynd i’r afael yn llwyddiannus â phroblem gynyddol gordewdra ac osgoi cenhedlaeth o afiechyd, rhybuddia’r Gweinidog dros Iechyd Dr Brian Gibbons heddiw.

  • Y rhan fwyaf o gleifio yn fodlon ar eu trinaeth yn yr ysbyty

    Dydd Gwener, 17 Mehefin 2005, Llywodraeth Cymru

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y rhan fwyaf o gleifion yng Nghymru yn fodlon ar y gofal y maent yn ei dderbyn gan unigolion  o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu o wasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y gwasanaethau yn dechrau gweithio’n dda gyda’i gilydd er mwyn osgoi anfon pobl i ysbyty heb fod angen.

  • Gweinidog yn canmol ymdrechion ymddiriedolaethau i wella sterileiddio

    Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2005, Llywodraeth Cymru
    Mae diogelwch cleifion ar draws Cymru wedi cymryd cam arall ymlaen gyda phob uned sterileiddio a dadlygru mewn ysbytai'n cyrraedd safonau heriol, cyhoeddodd y Dr Brian Gibbons heddiw (Dydd Llun, 13 Mehefin).

  • Amseroedd aros Orthopedig i ostwng yng Nghasnewydd

    Dydd Gwener, 10 Mehefin 2005, Llywodraeth Cymru
    Bydd cleifion cyhyrysgerbydol yng Nghasnewydd yn elwa o wasanaeth newydd a fydd yn helpu i ostwng amseroedd aros hir a sicrhau bod cleifion yn cael eu trin gan y bobl broffesiynol iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn y tro cyntaf, meddai Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, heddiw wrth lansio’n swyddogol Wasanaeth brysbennu a thriniaeth cyhyrysgerbygol newydd.

  • Gweinidog yn annog y GIG i droi’n ‘wyrdd’

    Dydd Iau, 2 Mehefin 2005, Llywodraeth Cymru
    Wrth lansio Wythnos Amgylchedd GIG Cymru, anogodd y Gweinidog Iechyd, Dr Brian Gibbons, bob gweithiwr iechyd proffesiynol i helpu’r amgylchedd gartref ac yn y gwaith.

  • Pobl y brif ddinas wedi cael eu henwi y rhai mwyaf caredig yn y wlad

    Dydd Iau, 2 Mehefin 2005, Llywodraeth Cymru
    Mae Caerdydd wedi cael ei enwi fel y lle mwyaf caredig yng Nghymru, gyda’r gyfran uchaf o bobl sy’n barod i roi bywyd yn rhodd trwy roddi eu horganau ar ôl iddynt farw.

  • Dirprwy Weinidog yn cyflwyno gwobrau’r gymraeg mewn gofal iechyd

    Dydd Iau, 26 Mai 2005, Llywodraeth Cymru

    Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd John Griffiths ganmoliaeth i weithwyr iechyd proffesiynol am eu gwaith yn gwella profiad y claf trwy wella darpariaeth iaith Gymraeg yn y gwasanaeth wrth iddo gyflwyno gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd 2005.

  • John Griffiths yn ycflwyno gwobrau i weithleoedd iach yng Ngogledd Cymru

    Dydd Llun, 23 Mai 2005

    Mae cyflogwyr yng Ngogledd Cymru sy’n rhoi iechyd eu gweithwyr ar frig eu hagenda wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol.

  • Cymru yn arwain y ffordd ym maes Telefeddyginiaeth meddai Prif Weinidog Cymru

    Dydd Llun, 23 Mai 2005, Llywodraeth Cymru

    Bydd Rhodri Morgan y Prif Weinidog yn tynnu sylw at y datblygiadau a fu yng Nghymru ym maes Telefeddyginiaeth yn seithfed uwchgynhadledd y Cyngor Gwyddelig Prydeinig ar Ynys Manaw yfory (dydd Gwener 20 Mai 2005).

  • Cynlluniwyd am Oes – gwasanaeth iechyd o’r radd flaenaf i Gymru

    Dydd Iau, 19 Mai 2005, Llywodraeth Cymru

    Heddiw, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Dr Brian Gibbons, gam nesaf Cymru tuag at wasanaeth iechyd o’r radd flaenaf wrth lansio Designed for Life – strategaeth 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Babanod Cymru wrth eu bodd â llaeth eu mamau

    Dydd Mawrth, 10 Mai 2005, Llywodraeth Cymru

    Rhoddir ymgyrch fawr ar droed heddiw i hyrwyddo’r ffaith mai llaeth y fam sy’n rhoi’r cychwyn gorau i fabanod. Lansiwyd Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y bore yma gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, John Griffiths.

  • Buddsoddiad gan y Cynulliad yn arwain at ddau ysbyty newydd yn Sir Benfro

    Dydd Llun, 9 Mai 2005
    Heddiw, roedd pobl Dinbych y Pysgod a Doc Penfro’n dathlu dechrau’r gwaith ar ddau ysbyty newydd. Aeth y Gweinidog Iechyd, Dr Gibbons, i ymweld â’r ddau safle i dorri tywarchen gyntaf Ysbyty newydd De Sir Benfro ac Ysbyty’r Bwthyn yn Ninbych y Pysgod.

  • Y Gweinidog yn dathlu amseroedd aros is

    Dydd Iau, 28 Ebrill 2005, Llywodraeth Cymru
    Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons bod nifer y cleifion sy'n aros 12 mis fan bellaf am driniaeth fel cleifion mewnol neu achosion dydd ar ei isaf ers cychwyn y cofnodion cymharol ym 1994.

  • Hwb o £5 miliwn i’r gwaith o foderneiddio deintyddiaeth y GIG

    Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2005

    Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi hwb ariannol o £5 miliwn i helpu i gadw deintyddion yn y GIG a datblygu mynediad i wasanaethau.

  • Oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng eto

    Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2005, Llywodraeth Cymru
    Mae nifer y bobl sy’n wynebu oedi wrth drosglwyddo’u gofal wedi gostwng ledled Cymru ers Ionawr 2004. Dyna ddywedodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar oedi wrth drosglwyddo gofal.