Newyddion

Hidlo Newyddion
  • Y Cynllun Bwyd a Ffitrwydd yn camu ymlaen

    Dydd Iau, 29 Mehefin 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae'r Cynllun Gweithredu ar Fwyd a Ffitrwydd, a lansiwyd heddiw gan Brif Weinidog Cymru a'i dîm o Weinidogion, yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc wneud penderfyniadau am fwyta'n dda, cadw'n heini a bod mor iach â phosibl.

  • Amseroedd aros yn dal i wella

    Dydd Iau, 29 Mehefin 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw (Mehefin 28), croesawodd y Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd, yr adroddiad atodol gan Swyddfa Archwilio Cymru am amseroedd aros yng Nghymru.

  • Ymgynghori ar y cynnig i gyfl wyno swyddogaethau’r Pwyllgorau Cynghori Proffesiynol Statudol ar ...

    Dydd Iau, 15 Mehefin 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynnig i gyflwyno swyddogaethau'r naw pwyllgor cynghori proffesiynol statudol ar iechyd (a'r un pwyllgor anstatudol) i Ganolfan Iechyd Cymru.

  • £3 miliwn i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar wasanaethau deintyddol y GIG

    Dydd Gwener, 9 Mehefin 2006, Llywodraeth Cymru
    Cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd, Dr Brian Gibbons sut y bydd swm ychwanegol o £3 miliwn yn cael ei rannu i alluogi mwy o bobl i fanteisio ar wasanaethau deintyddol y GIG yn arbennig mewn ardaloedd lle mae diffyg darpariaeth.

  • Brian Gibbons yn ymweld â phrosiect Cronfa Anghydraddoldebau Iechyd Gogledd Cymru

    Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2006, Llywodraeth Cymru
    Cafodd y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Brian Gibbons weld heddiw sut y mae cyfleoedd pobl grwydrol i ddefnyddio gwasanaethau iechyd wedi gwella, a hynny yn ystod ei ymweliad â Wrecsam.

  • Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau:

    Dydd Gwener, 19 Mai 2006
    Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig

  • Cynllunio ar gyfer Bywyd Nos

    Dydd Mercher, 3 Mai 2006

    Ynhadledd Ysbytai Liw Nos Llywodraeth Cynulliad Cymru, 8 Mehefin 2006, Y Celtic Manor, Casnewydd.

  • Gweinidog yn croesawu cyhoeddi data ar heintiau

    Dydd Mawrth, 2 Mai 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw (Dydd Gwener) croesawodd y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons gyhoeddi data sy'n dangos y cyfraddau o heintiau yn y llif gwaed a achosir gan organebau amrywiol.

  • Cleifion I Gael Mynediad at Gyfraddau Goroesi Llawdriniaeth ar y Galon am y Tro Cyntaf

    Dydd Mawrth, 2 Mai 2006
    O heddiw (Dydd Iau) ymlaen, am y tro cyntaf erioed, mae gan gleifion a'r cyhoedd fynediad at gyfraddau goroesi llawdriniaethau mewn unedau calon ledled Cymru a Lloegr.

  • Cyllid GIG Cymru

    Dydd Iau, 13 Ebrill 2006
    Mae pwysau ariannol byrdymor yn atal y GIG yng Nghymru rhag adfer diffygion ariannol hyn, ac mae'r sefyllfa'n debygol o waethygu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rhybuddia Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Canfu ei adroddiad: A yw'r GIG yng Nghymru yn Ymdopi o fewn yr Adnoddau Ariannol sydd ar Gael Iddo? fod ymddiriedolaethau GIG, byrddau iechyd lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru wedi cyflawni eu targedau ariannol yn ystod 2004/2005, ond roedd nifer wedi derbyn arian ychwanegol - sef tua £82 miliwn i gyd ar ddiwedd y flwyddyn honno - gyda thua £55 miliwn i'w had-dalu erbyn 2009.

  • Cyfrifiad Iechyd Meddwl ac Ethnigrwydd i barhau am ail flwyddyn

    Dydd Mawrth, 4 Ebrill 2006

    Cyfrifiad i gwmpasu pobl ag anableddau dysgu am y tro cyntaf. Caiff ethnigrwydd, crefydd ac iaith tua 35,000 o gleifion mewnol iechyd meddwl a 5000 o bobl ag anableddau dysgu eu cofnodi ar 31 Mawrth 2006 ledled Cymru a Lloegr.

  • Pris presgripsiynau yn syrthio i £3 yng Nghymru

    Dydd Llun, 3 Ebrill 2006, Llywodraeth Cymru
    Syrthiodd pris presgsripsiynau i £3 heddiw wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru gymryd y cam nesaf tuag at eu hymrwymiad i ddarparu presgripsiynau GIG am ddim i bawb yng Nghymru.

  • Buddsoddiad mawr gwerth £30 miliwn yng ngwasanaeth deintyddol y GIG

    Dydd Llun, 3 Ebrill 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae £30 miliwn yn rhagor y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yng nghontract deintyddol newydd y GIG. Dyna neges Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, heddiw.

  • Adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn canolbwyntio ar iechyd a lles ar lefel leol

    Dydd Gwener, 31 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae ail argraffiad adroddiad y Prif Swyddog Meddygol gan Dr David Slater, Prif Swyddog Meddygol Cymru dros dro, yn canolbwyntio ar iechyd a lles ar lefel yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol.

  • Niferoedd staff y GIG yn cynyddu wrth i nifer y swyddi gwag leihau

    Dydd Gwener, 31 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru wedi cynyddu 2,270 rhwng 2004 a 2005. Daw hyn â chyfanswm staff y GIG i 68,270. Mae nifer swyddi’r GIG sydd wedi bod yn wag ers tri mis neu fwy wedi disgyn 284, sef 1.1 y cant o’r holl swyddi.

  • Gweinidog yn gwrando ar farn myfyrwyr gofal iechyd

    Dydd Gwener, 24 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru

    Heddiw [dydd Mercher 22 Mawrth], fe gynhaliwyd cyfarfod cyntaf grŵp a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd rannu eu profiadau a thrafod materion cyfredol o bwys er mwyn helpu i wella ansawdd eu haddysg.

  • Gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ar fin gwella

    Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru

    Mae lansio’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yn garreg filltir bwysig yn ein hymgyrch i wella gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Dyna ddywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol John Griffiths heddiw wrth iddo lansio’r ddogfen derfynol.

  • BILl Casnewydd yn gweithredu i wella gwasanaethau iechyd meddwl

    Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru

    Heddiw (March 16th) lansiwyd strategaeth a chynllun gweithredu iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Casnewydd gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Wrth lansio’r cynllun fe wnaeth y Gweinidog ganmol y BILl am weithredu i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ei ardal.

  • Uned newydd yn lleihau amseroedd aros yn Abertawe

    Dydd Gwener, 10 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw dywedodd y Gweinidog Iechyd, Brian Gibbons, fod uned ddydd newydd a phwrpasol gwerth £5.2 miliwn ar gyfer llawfeddygaeth yn Ysbyty Singleton yn cynorthwyo’r broses o gyflymu amseroedd triniaeth ar gyfer cleifion yn Abertawe, ac yn lleihau amseroedd aros hir.

  • Cyhoeddi canlyniadau arolwg staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru

    Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2006, Llywodraeth Cymru
    Y prif faterion y tynnwyd sylw atynt yn arolwg staff diweddaraf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw [dydd Llun, 6 Mawrth] oedd Dyfodol Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r bodlonrwydd swydd a geir wrth ofalu am gleifion oedd].

  • Penodi Aelod o Gymru ar Fwrdd yr Asiantaeth Diogelu Iechyd

    Dydd Iau, 23 Chwefror 2006, Llywodraeth Cymru

    Heddiw cyhoeddodd Dr Brian Gibbons bod Mr John Wyn Owen wedi’i benodi yn aelod anweithredol o’r Asiantaeth Diogelu Iechyd, (HPA).

  • Brian Gibbons yn cyhoeddi y bydd mwy o wario ar anghydraddoldebau iechyd

    Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2006, Llywodraeth Cymru

    (Dydd Iau 16 Chwefror), cyhoeddodd Brian Gibbons y bydd mwy o gyllid ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau clefyd y galon ledled Cymru.

  • Cymru ar y blaen wrth i'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi gael eu cyhoeddi

    Dydd Iau, 16 Chwefror 2006, Llywodraeth Cymru

    Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi. Wrth gyflwyno sylwadau am y ffigurau, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, pwysleisiodd y Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd, pa mor bwysig oedd yr amseroedd aros hyn o safbwynt cyrraedd y targedau a bennwyd ar gyfer 2009.

  • Gweinidog yn lansio gwasanaeth newydd i wneud y gorau o syniadau'r GIG

    Dydd Llun, 13 Chwefror 2006, Llywodraeth Cymru
    Cafodd gwasanaeth newydd ei lansio gan y Gweinidog dros Iechyd, Dr Brian Gibbons heddiw [Dydd Llun, 13 Chwefror] i roi cymorth ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol ddatblygu a defnyddio syniadau arloesol o fewn y GIG i wella gofal y cleifion a chreu incwm ychwanegol.

  • Gweinidog yn agor Ysgol Glinigol yn Ysbyty Gwynedd

    Dydd Iau, 9 Chwefror 2006, Llywodraeth Cymru
    Bydd y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons yn agor cynllun buddsoddi diweddaraf Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn swyddogol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor heddiw.