Newyddion

Hidlo Newyddion
  • Gweinidog yn croesawu adroddiad i gysylltiadau iechyd â gwledydd sy'n datblygu

    Dydd Mercher, 21 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Mae'r Gweinidog Iechyd, Dr Brian Gibbons, wedi croesawu adroddiad i'r Prif Weinidog ar y manteision cilyddol a geir yn sgil datblygu cysylltiadau iechyd â gwledydd sy'n datblygu.

  • Heintiau sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd: Ymgynghoriad ar Strategaeth Gymunedol Cymru

    Dydd Gwener, 16 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru

    Mae heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HAIs) yn amharu ar iechyd cleifion ac yn gost i'r gwasanaeth iechyd.

  • Plant yn nofio am ddim yn ystod hanner tymor

    Dydd Llun, 12 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    A ydych chi'n chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud yn ystod gwyliau hanner tymor? Beth am fynd am dro i'ch pwll nofio lleol er mwyn cael manteisio ar gynllun Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru!

  • Practis deintyddol newydd at ddant 12,000 o gleifion yn Llanelli

    Dydd Gwener, 9 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Heddiw [Dydd Iau 8 Chwefror 2007], cafodd practis deintyddol newydd sy'n cynnig gofal y GIG i 12,000 o gleifion yn Llanelli ei agor yn swyddogol gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

  • Galwad i barchu urddas pobl hyn

    Dydd Mercher, 7 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Mae angen parchu a diogelu urddas pobl hyn yng Nghymru, meddai'r Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb am Bobl Hyn, John Griffiths.

  • Y gweinidog iechyd yn cyhoeddi rhaglen sgrinio canser y coluddion

    Dydd Mercher, 7 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Bydd Comisiwn Iechyd Cymru yn derbyn bron i £3.2 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu'n gynyddol raglen genedlaethol yng Nghymru i sgrinio ar gyfer canser y coluddion.

  • Hawl I nyrsys a fferyllwyr roi prescripsiwn gam yn nes

    Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru

    Bydd Comisiwn Iechyd Cymru yn derbyn bron i £3.2 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu'n gynyddol raglen genedlaethol yng Nghymru i sgrinio ar gyfer canser y coluddion.

  • Adolygiad o lawdriniaethau ar y ben-glin

    Dydd Gwener, 2 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Adolygiad o lawdriniaethau ar y ben-glin yng Nghanolfan Triniaeth y GIG, Weston a wnaed o dan Gynllun yr Ail Gynnig

  • Amseroedd aros y gig yn dangos bod cleifion yn cael triniaeth yn gynt

    Dydd Iau, 1 Chwefror 2007, Llywodraeth Cymru
    Mae cleifion yng Nghymru yn parhau i weld gwelliannau mawr yn yr amseroedd aros, yn ôl ystadegau a amseroedd aros y chwarter olaf a gadarnhawyd heddiw [Dydd Mercher 31 Ionawr 2007].

  • Pleidlais bwysig wrth i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau ar wahardd ysmygu

    Dydd Mercher, 31 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Cymeradwyodd y Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, "y mesur iechyd cyhoeddus pwysicaf " yn hanes y Cynulliad, wrth i'r rheoliadau terfynol gael eu cymeradwyo ar wahardd ysmygu ym mhob man cyhoeddus caeedig yng Nghymru.

  • Lansio ymgynghoriad ynghylch Byrddau Gwasanaethau Lleol yng Nghymru

    Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Heddiw [29 Ionawr 2007], cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gynigion ymgynghori ar gyfer cyfnod Cyntaf Byrddau Gwasanaethau Lleol yng Nghymru, fel yr addawyd yn Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni Ar Draws Ffiniau, ymateb y Llywodraeth i adroddiad Beecham, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

  • Strategaeth ddraft i wella bywyd pobl ag awtistiaeth

    Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Heddiw [dydd Mawrth 30 Ionawr 2007], cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru strategaeth ddrafft a fydd yn ceisio gwella ansawdd bywyd pobl ag awtistiaeth.

  • Cymeradwyo presgripsiynau am ddim yng nghymru

    Dydd Gwener, 26 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Cyflwynir presgripsiynau am ddim yng Nghymru ddydd Sul, 1 Ebrill, meddai'r Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons heddiw ar ôl i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau terfynol.

  • Lansio Canolfan Ddelweddu £16 miliwn

    Dydd Iau, 25 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Bydd gofal iechyd a'r economi yng Nghymru ar eu hennill drwy gyfrwng canolfan ddelweddu sy'n werth miliynau o bunnoedd ac sy'n cael ei lansio heddiw (dydd Mercher 24 Ionawr) gan Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad.

  • Amseroedd aros cleifion y galon i ostwng yng Nghymoedd y De

    Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Heddiw [Dydd Llun, 22 Ionawr] dywedodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, yn agoriad swyddogol y labordy cathetr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, y bydd cleifion sy'n dioddef o broblemau'r galon yng Nghymoedd y De yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt.

  • Busnesau Cymru yn cael eu hannog i roi cais arni

    Dydd Llun, 15 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Mae busnesau ar draws Cymru yn cael eu hannog i droi'n ddi-fwg fis nesaf i baratoi ar gyfer y gwaharddiad ar ysmygu.

  • Gweinidog yn cadarnhau sut y bydd Cymru’n mynd ati i fynd i’r afael â chanser

    Dydd Llun, 8 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Cyhoeddwyd datganiad polisi ffurfiol cyntaf Llywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael â chanser gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons.

  • Newid i fyw’n iach - fit for a change 2007

    Dydd Gwener, 5 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Yfory [dydd Gwener 5 Ionawr] ar ITV Cymru bydd cyfres newydd chwe rhan yn cael ei darlledu am y tro cyntaf gyda'r nod o ysbrydoli pobl i newid eu ffordd o fyw, a fydd yn arwain at fywyd iachach yn 2007.

  • Gall prynu ffrwythau a llysiau lleol arwain at 2007 iachach

    Dydd Gwener, 5 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Ar ôl bwyta ac yfed gormod dros wyliau'r Nadolig pa well ffordd o ddechrau'r Flwyddyn Newydd na chydag adduned i brynu mwy o ffrwythau a llysiau ffres lleol i'ch helpu i fyw bywyd iachach yn 2007.

  • Cymerwch gamau i wneud 2007 yn flwyddyn fwy iach

    Dydd Mawrth, 2 Ionawr 2007, Llywodraeth Cymru
    Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol, yn ein hannog ni i gyd i wneud 2007 yn flwyddyn fwy iach a Chymru'n wlad fwy iach.

  • Budsoddiad triniaethau'r arennau a'r galon gwerth miliynau yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru

    Dydd Mercher, 20 Rhagfyr 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw, [Dydd Mercher, 20 Rhagfyr] bydd y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons yn ymweld ag Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin i weld y cynnydd a wnaed gyda thri datblygiad pwysig a fydd yn gwella ansawdd y gofal iechyd a gynigir i bobl leol yn fawr iawn.

  • Fferyllwyr i helpu mwy o gleifion

    Dydd Mercher, 20 Rhagfyr 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw [dydd Mawrth, 19 Rhagfyr] cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons y bydd fferyllwyr cymunedol yn cael cyfleoedd newydd i wneud gwahaniaeth mawr trwy gael rhoi cyngor i gleifion ar ddefnyddio meddyginiaeth.

  • Lansio cynllun i arbed bywydau ar draws Cymru

    Dydd Mercher, 20 Rhagfyr 2006, Llywodraeth Cymru
    Heddiw (19 Rhagfyr 2006), bydd cynllun newydd a fydd yn helpu i arbed bywydau pobl sydd wedi dioddef trawiad ar y galon yn cael ei lansio yn y Senedd am 3pm gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Miliynau'n cael ei wario ar weddnewid Ysbyty Tywysog Siarl

    Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2006, Llywodraeth Cymru
    Cyhoeddodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd fod pecyn cyllid gwerth £64.7m wedi'i ddyfarnu i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ar gyfer gwaith ailddatblygu ac ailwampio sylweddol.

  • Peidiwch ag yfed a gyrru dros y Nadolig

    Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2006, Llywodraeth Cymru
    Mae cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r ymgyrch flynyddol hon yn rhan o'i hymateb i Her Iechyd Cymru.