Cofnodion 776 i 800 o 1156
-
Prif Weinidog Cymru yn galw am feithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica ym maes iechyd
Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007, Llywodraeth CymruDywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan heddiw (dydd Gwener 29 Mehefin) y gall pobl yng Nghymru ac mewn gwledydd sy'n datblygu elwa ar ffurfio partneriaethau rhwng gweithwyr iechyd fel y gallant ddysgu o'u profiadau ei gilydd. -
Ymgynghori ynghylch cynigion ar gyfer newid y ffordd y cofnodir amseroedd aros yn ysbytai’r GIG
Dydd Iau, 28 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruMae'r ymarfer ymgynghori hwn yn gwahodd sylwadau ar gynigion i newid y ffordd y cesglir data ynghylch amseroedd aros am y prif driniaethau aciwt. -
Cyllid y Cynulliad a'r GIG 'wedi'u rheoli'n dda'
Dydd Iau, 28 Mehefin 2007Cymeradwyodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, gyfrifon y Cynulliad a'r GIG heddiw ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2006. -
Gweinidog yn dweud y bydd y pwerau deddfwriaethol newydd yn cael eu defnyddio’n gyfrifol
Dydd Llun, 25 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruBydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio'r pwerau deddfwriaethol newydd mewn ffordd gyfrifol ac er mwyn gwella bywydau pobl. Ni fyddant yn cael eu defnyddio i basio mesurau annoeth a difeddwl. -
Y Gweinidog Iechyd yn croesawu argymhelliad i frechu rhag canser ceg y groth
Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruHeddiw [ddydd Mercher, 20 Mehefin], mae'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi croesawu argymhelliad y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i ychwanegu brechlyn firws papiloma dynol at raglen imiwneiddio plant Prydain. -
Mwy o help i roi’r gorau i smygu
Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruMae menter newydd sy'n rhoi mwy o help i smygwyr roi'r gorau i smygu ar fin dechrau ym Merthyr Tudful. -
Trosglwyddo a Datblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn Ne Cymru
Dydd Iau, 21 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruMae'r ddogfen ymgynghori hon yn pennu'r cynigion ar gyfer ailddarparu'r gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMH) yn Ne Cymru. -
Strategaeth i wneud Cymru'n egniol yn 'gwneud rhywfaint o gynnydd'
Dydd Iau, 14 Mehefin 2007'Ond dylid cydlynu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy' meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru -
Rhaglen Cleifion Arbenigol yn Dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 2007
Dydd Iau, 7 Mehefin 2007, Llywodraeth CymruMae Rhaglen Cleifion Arbenigol Cymru yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr [dydd Gwener 1 Mehefin - dydd Iau 7 Mehefin 2007] drwy ddiolch i wirfoddolwyr am eu cyfraniad gwerthfawr ac apelio am wirfoddolwyr newydd a chyfranogwyr cwrs i ymuno â'r rhaglen. -
Mae Cleifion Sydd Wedi Cael Strôc Yng Nghymru yn Fwy Tebygol O Farw Nag Yn Lloegr
Dydd Gwener, 11 Mai 2007, Llywodraeth CymruDengys canlyniadau Archwiliad Cenedlaethol Strôc Sentinel 2006 fod cleifion yng Nghymru yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i strôc, neu os byddant yn ei goroesi bydd ganddynt lefelau uwch o anabledd nag yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon -
Chwa o awyr iach wrth i Gymru droi’n ddi-fwg
Dydd Llun, 2 Ebrill 2007, Llywodraeth CymruAtgof yn unig bydd tafarndai, tai bwyta a gweithleoedd myglyd o heddiw [Dydd Llun 2 Ebrill 2007] wrth i waharddiad ar smygu mewn mannau caeedig cyhoeddus ddod i rym yng Nghymru. -
Gweinidog yn cyhoeddi rhaglen mewnblaniad yn y cochlea sydd werth £750,000
Dydd Gwener, 30 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw (dydd Mercher 28 Mawrth), cyhoeddodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd mwy o oedolion ag anawsterau clywed dwys yn manteisio o raglen newydd mewnblaniad yn y cochlea sydd werth £750,000. -
Presgripsiynau Am Ddim: Cymru Yn Llwyddo I Ddatrys Problemau Ym Maes Iechyd
Dydd Gwener, 30 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw, dywedodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd y bydd miloedd o Gymry ar eu hennill o gael presgripsiynau am ddim yng Nghymru sy'n golygu na fydd cost presgripsiynau yn dod rhwng pobl a'u hiechyd.
-
Y gweinidog yn cyhoeddi £4.5miliwn o arian i wasanaethau canser yng Nghymru
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruMae gwasanaethau canser yng Nghymru'n mynd i gael £4.5miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, heddiw (26 Mawrth, 2007). -
Strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr yn arwain at gynnydd o £1m mewn cynllun grant
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruMae John Griffiths AC, yr Eiriolwr dros Ofalwyr a'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi cynnydd o £1 miliwn yn y grant sydd ar gael i bobl sy'n gofalu am gyfeillion ac anwyliaid.
-
Cymru di-fwg - cyflwyno'r gwharddiad ar smygu
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruBydd modd i bobl Cymru fyw, gweithio a chymdeithasu mewn gwlad lanach ac iachach o ddydd Llun 2 Ebrill 2007 ymlaen pan ddaw'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd i rym. -
Gweinidog yn llofnodi cytundeb partneriaeth ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn staff y GIG
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw (dydd Iau 22 Mawrth 2007), llofnododd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd, gytundeb partneriaeth gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn gweithwyr iechyd yng Nghymru. -
Cofnod iechyd brys newydd "ar-lein" yn gwella'r gofal y tu allan i oriau arferol yng Ngwent
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw (dydd Llun 19 Mawrth 2007) bydd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd, yn ymweld ag Ymddiriedolaeth GIG Gwent i weld sut y mae'r cofnod iechyd brys electronig newydd yn cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth y tu allan i oriau arferol i wella'r gofal a roddir i bobl leol. -
Sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o bresgripsiynau am ddim
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruMae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn i sefydliadau cymunedol ledled y wlad am eu cymorth i ddweud wrth eu cleientiaid a'u cwsmeriaid y bydd pob presgripsiwn am ddim ar ôl dydd Sul, 1 Ebrill. -
Canolfan Triniaeth Orthopedig flaenllaw yn agor yn swyddogol
Dydd Mercher, 21 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw, mae canolfan triniaeth orthopedig flaenllaw yn cael ei hagor yn swyddogol. Bydd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, yn ymweld â’r ganolfan, sydd â chyfleusterau o radd flaenaf, i gael gweld y gwahaniaeth y mae eisoes wedi’i wneud i gleifion ar hyd a lled y De a’r Canolbarth. -
Triniaeth ar gyfer 7,000 o gleifion y GIG ym mhractis deintyddol newydd Sir Fynwy
Dydd Gwener, 9 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw (dydd Llun 5 Mawrth), cafodd practis deintyddol newydd yn Sir Fynwy sy'n cynnig triniaeth GIG i 7,000 o gleifion ei agor yn swyddogol gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. -
Diwrnod yr Aren: Gweinidog yn cyhoeddi dyfodol y gwasanaethau arennol yng Nghymru
Dydd Gwener, 9 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw (8 Mawrth, 2007), ar Ddiwrnod yr Aren, gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, gyhoeddiad ar ddyfodol y gwasanaethau arennol yng Nghymru. -
Ambiwlansys newydd modern ar ffyrdd Cymru
Dydd Iau, 8 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruHeddiw [dydd Mawrth 6 Mawrth 2007] datgelwyd cerbydau newydd modern Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd gerbron Dr Brian Gibbons, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru. -
Ymgyrch hysbysebu crynswth y gwaharddiad ysmygu ar droed
Dydd Gwener, 2 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruGyda mis yn unig yn weddill cyn cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau caeedig cyhoeddus a gweithleoedd yng Nghymru, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datguddio ymgyrch hysbysebu sylweddol i atgyfnerthu dechrau'r gwaharddiad ar ddydd Llun yr 2il Ebrill, 2007. -
Cynlluniau gwerth £64 miliwn i wella iechyd cwm cynon
Dydd Gwener, 2 Mawrth 2007, Llywodraeth CymruMae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysbyty cymunedol pwrpasol modern i gymryd lle'r hen gyfleusterau iechyd yng Nghwm Cynon.
Cofnodion 776 i 800 o 1156