Mae’r ffigurau - o Adroddiad Blynyddol Prif Weithredwr GIG Cymru David Sissling a gyhoeddir yr wythnos hon - yn dangos bod nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn mewn argyfwng â chlefyd y galon, cyflyrau resbiradol a diabetes wedi gostwng bron 12 y cant ar y cyfan yn 2011/12 o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Hefyd gwelwyd gostyngiad o bron 23 y cant ar y cyfan yn yr achosion o gleifion yn cael eu haildderbyn i ysbytai am y cyflyrau hyn
Cyhoeddir y ffigurau newydd wrth i fyrddau iechyd ar draws Cymru baratoi i ymgynghori ar gynlluniau i wella eu gwasanaethau, ac yn ôl Prif Weithredwr GIG Cymru, maent yn helpu i gryfhau’r angen am fodelau newydd o ofal iechyd.
Dywedodd David Sissling:
“Mae’r GIG wedi gwneud camau breision i leihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai â chyflyrau cronig.
“Mae’r lleihad hwn yn dangos dau ddatblygiad pwysig – gwell gofal yn golygu triniaeth well o glefydau a oedd unwaith yn rhai marwol – yn aml mewn lleoliad yn y gymuned – ac oherwydd hynny, llai o ddibyniaeth ar ysbytai i drin y cyflyrau hyn.
“Mae’n dangos bod y GIG yn gwneud cynnydd wrth symud cydbwysedd y gofal o ysbytai i leoliadau yn y gymuned, a gall y drefn bresennol mewn ysbytai - sy’n bodoli o adeg pan nad oedd modd trin y clefydau hyn - newid i adlewyrchu’r canlyniadau gwell hyn.
“Yn sgil llai o dderbyniadau mewn ysbytai, mae llawer o’r ysbytai cymunedol yn cael eu tanddefnyddio, syn aneffeithlon i gleifion ac i’r GIG.
“Er mwyn parhau i gyflawni canlyniadau gwell mae angen mwy fyth o ffocws ar wasanaethau yn y gymuned – ochr yn ochr â chanolfannau rhagoriaeth
arbenigol - a fydd yn darparu canlyniadau gwell i gleifion.“Er mwyn ateb yr heriau hyn, mae angen inni foderneiddio ein gwasanaethau iechyd ac yn ystod y misoedd i ddod bydd cymunedau ledled Cymru’n cael cyfle i leisio eu barn ar newidiadau i’r gwasanaethau iechyd yn eu hardaloedd.