Bydd cannoedd o gardiau a phosteri yn cael eu gosod mewn ystafelloedd newid ledled Cymru, gyda’r nod o dynnu sylw at ganser y ceilliau a thanlinellu pwysigrwydd dod o hyd iddo’n gynnar.
Canser y ceilliau yw’r math mwyaf cyffredin o ganser mewn dynion 15-44 oed. Er gwaetha’r ffaith ei fod yn eithaf anghyffredin, mae nifer y dynion sy’n dioddef ohono wedi mwy na dyblu ers 1975, gyda thua chant o achosion newydd yn cael eu canfod bob blwyddyn yng Nghymru.
Am fod modd iacháu 99 y cant o’r achosion o ganser y ceilliau sy’n cael eu canfod yn gynnar, gyda chyfradd iacháu gyffredinol o 95 y cant, ni ellir gorbwysleisio mor bwysig yw dod o hyd iddo’n gynnar.
Roedd Ryan Jones yn fwy na pharod i roi help llaw i’r ymgyrch, a’i obaith yw y bydd dosbarthu’r cardiau a’r posteri mewn ystafelloedd newid yn cael gwared ar yr embaras sydd yn aml yn gysylltiedig â’r pwnc, ac yn annog dynion i archwilio’u hunain.
Meddai Ryan Jones:
"Pan ddaw at ganser y ceilliau, mae’n deg dweud bod ein hiechyd yn ein dwylo’n hunain – a hynny’n llythrennol.”
Mae’r gyfradd llwyddiant ar gyfer trin canser y ceilliau yn uchel iawn os yw’n cael ei ddal yn gynnar. Mae’n hanfodol archwilio’ch hunain, a’r gobaith yw y bydd y cardiau a’r posteri hyn yn helpu i atgoffa dynion i archwilio eu hunain yn gyflym ar ôl gêm, sesiwn yn y gampfa neu gawod. Gallai achub eu bywyd."
Meddai Dr Tony Jewel, Prif Swyddog Meddygol Cymru;
"Nid oes yn rhaid i ganser y ceilliau fod yn angheuol. Gellir ei drin os yw’n cael ei ddal mewn pryd.
Gyda’r math hwn o ganser yn cael ei ganfod mewn cant o ddynion bob blwyddyn, mae’n amlwg bod llawer mwy i’w wneud i atgoffa dynion ifanc i archwilio’u hunain yn rheolaidd.
Trwy ddosbarthu posteri a chardiau mewn canolfannau hamdden a sefydliadau chwaraeon yng Nghymru, ein gobaith yw tynnu sylw at y mater pwysig hwn."
Bydd y cardiau a’r posteri gwrth-ddwr yn cael eu dosbarthu i gyrff llywodraethu a chanolfannau hamdden er mwyn atgoffa dynion ifanc i “archwilio eu ceilliau”.
Dylai’r rheini sydd am gael copïau o’r cardiau neu’r posteri gysylltu â Her Iechyd Cymru ar 02920 825935.