Gweinidog yn gweini bwydlen newydd i wella bwyd mewn ysbytai

Dydd Gwener, 1 Awst 2008

Heddiw (dydd Gwener 1 Awst), bydd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, yn datgelu gwaith newydd i wella bwyd mewn ysbytai.

Bydd Mrs Hart yn cyhoeddi comisiwn i Goleg Brenhinol y Nyrsys ddarparu hyfforddiant maeth ym mhob Ymddiriedolaeth GIG.

Bydd staff y gadwyn fwyd gyfan – y rheini sy'n prynu, yn coginio ac yn gweini bwyd mewn ysbytai – yn mynychu gweithdai i wella ansawdd y prydau sy'n cael eu darparu i gleifion.

Bydd y gweithdai hefyd yn delio ag amseroedd bwyd penodedig a rhoi cymorth i bobl fwyta os bydd angen.

Mae'n dilyn yr argymhelliad gan grwp y sefydlodd y Gweinidog i ystyried bwyd mewn ysbytai, ac adroddiad diweddar gan arweinwyr nyrsys a roddodd nifer o argymhellion i wella profiad cleifion wrth aros yn yr ysbyty.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Mrs Hart y byddai'r GIG yn gwahardd peiriannau sy'n gwerthu bwyd afiach mewn ysbytai.  Dim ond un ysbyty GIG o blith 130 ohonynt yng Nghymru fydd heb beiriannau gwerthu iach erbyn 2010.

Mae'r gwaith hwn mewn ysbytai yn ategu ymdrechion ehangach Llywodraeth y Cynulliad i wella safonau maeth mewn ysgolion drwy'r agenda Blas am Oes.

Meddai Edwina Hart: "Drwy wrando ar gleifion, rwy'n gwybod bod ganddynt farn gref am ansawdd y bwyd mewn ysbytai.

"Rwyf am sicrhau bod y prydau y mae cleifion yn eu cael yn blasu'n well ac yn fwy maethlon, ac felly'n hwb iddynt adfer yn gyflymach.

"Ar ben argymhellion adroddiad Grymuso Prif Nyrsys a'm penderfyniad i wahardd peiriannau sy'n gwerthu bwyd afiach mewn ysbytai, bydd y gweithdai hyn yn gwella profiad cleifion ymhellach, gan ein helpu i gyflawni'n hymrwymiad yn Cymru'n Un."

Meddai Martin Semple, Pennaeth Sefydliad Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru ac arweinydd rhaglen ddysgu'r Coleg: "Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn sefydliad addas i ddarparu'r hyfforddiant hwn, wedi i ni lansio'n ymgyrch Nutrition Now sy'n ceisio gwella safonau mewn ysbytai a lleoliadau iechyd cymuned.

"Bydd y gweithdai'n amlddisgyblaethol ac yn ymdrin â materion fel caffael, sgrinio maeth, arsylwi gofal, a datblygu a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith."