Y Gweinidog dros Iechyd yn ymweld ag elusen i bobl sy’n byw gyda chanser

Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008
Am 11am heddiw [dydd Mawrth, 29 Gorffennaf], bydd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, yn ymweld â Chanolfan Ganser "Maggie" yn Ysbyty  Singleton, Abertawe, i weld drosti'i hun y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sy'n byw gyda chanser.
Y ganolfan hon yn Abertawe yw'r Ganolfan "Maggie" gyntaf i gael ei hagor yng Nghymru.  Mae ar agor i unrhyw un sy'n dioddef o ganser – yn gleifion, yn deuluoedd, yn gyfeillion ac yn ofalwyr.

Mae'r cyngor a'r cymorth ymarferol a gynigir ganddi'n helpu pobl i ymdopi â'r straen mawr a achosir gan ganser.

Ers mis Mai 2007, mae'r Ganolfan wedi'i lleoli ar safle dros dro a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.  Bydd yn symud i adeilad pwrpasol newydd gwerth £1.7 miliwn yn yr ysbyty, yn gynnar y flwyddyn nesaf.  Ariannwyd yr adeilad newydd gan gyfraniadau elusennol.

Meddai Edwina Hart:

Mae'n bleser cael ymweld â'r ganolfan i weld pa gymorth sydd ar gael i gleifion, eu teuluoedd a'u cyfeillion ar adeg mor anodd yn eu bywydau.

Bydd canser wedi effeithio mewn rhyw ffordd ar bron pawb yng Nghymru. Mae ffigurau'n dangos y bydd un o bob tri pherson yng Nghymru yn cael rhyw fath o ganser yn ystod eu bywydau.

Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar atal canser, canfod y clefyd yn gynnar, a'i gwneud yn hawdd cael triniaeth a chefnogaeth o ansawdd da, a hynny i leihau effaith canser a gwella'r cyfraddau goroesi. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais raglen waith ar gyfer y tair blynedd nesaf i wella ymhellach wasanaethau i gleifion canser. Mae gan y sector gwirfoddol, a chanolfannau fel hyn, ran werthfawr i'w chwarae wrth gefnogi ac ategu gwaith y GIG o ran darparu help a chymorth i bobl sy'n byw gyda chanser.