Y gweinidog dros iechyd yn cyhoeddi rhaglen newydd i fynd i’r afael â chanser

Dydd Iau, 24 Gorffennaf 2008
Heddiw cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, ei bod yn lansio rhaglen newydd i wella gwasanaethau canser.

Heddiw [dydd Iau, 24 Gorffennaf], cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, ei bod yn lansio rhaglen newydd i wella gwasanaethau canser.

Mae Mrs Hart wedi cyhoeddi rhaglen waith tair blynedd ar gyfer y GIG, rhwydweithiau canser rhanbarthol a grwpiau eraill er mwyn helpu i atal canser, gwella'r broses o ganfod canser yn gynnar a'i gwneud yn haws cael triniaeth.  

Mae'r rhaglen waith yn cynnwys:

• adolygu prosesau profi genetig a chadw golwg ar deuluoedd sydd mewn mwy o berygl o ddioddef o fathau penodol o ganser, er mwyn sicrhau bod y galw cynyddol yn cael ei fodloni;
• cynnal arolwg cenedlaethol o brofiad cleifion o'r gofal canser a roddwyd iddynt;
• grwpiau cleifion, rhwydweithiau canser a'r Grwp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser i adolygu'r targedau ar gyfer amserau aros a chyflwyno argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad;
• datblygu safonau cenedlaethol newydd, a'u rhoi ar waith, ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n dioddef o ganser, canser yr ymennydd a sarcoma, neu sy'n cael triniaeth adsefydlu; a
• gan gychwyn ym mis Medi, 2008, rhoi'r rhaglen frechu HPV ar waith i leihau'r risg o gael canser ceg y groth.

Dyma'r ail raglen waith sydd wedi cael ei lansio yn sgil cyhoeddi'r Cynllun i Fynd i'r Afael â Chanser yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2006.  

Ar y cyfan, mae'r gyfres gyntaf o ofynion hyd at fis Mawrth 2008 wedi cael eu cyflawni.  Mae hyn yn cynnwys lleihau amserau aros i gael triniaeth ar gyfer canser, a moderneiddio cyfarpar diagnostig a radiotherapi.

Meddai Edwina Hart:

Mae mynd i'r afael â chanser a gwella gwasanaethau canser yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad.

Erbyn 2012, ein nod yw lleihau'r cyfraddau marwolaeth o ganlyniad i ganser ymysg pobl o dan 75 oed 20%, a sicrhau cyfraddau goroesi pum-mlynedd gyda'r gorau yn Ewrop erbyn 2015.   Bydd y rhaglen waith newydd rwyf yn ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau ein bod yn cymryd camau pellach tuag at gyrraedd y nodau hynny.

Er bod rhagor i'w wneud, mae'r cyfraddau goroesi yn parhau i gynyddu ar gyfer sawl math o ganser yng Nghymru.  Er enghraifft, o'i gymharu â'r cyfnod rhwng 1990 a 1994, roedd y gyfradd goroesi ar gyfer canser y coluddyn rhwng 1995 a 1999 gyda'r gorau yn Ewrop. Roedd y gwelliant hwn yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Ewrop.  

"Mae'r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn buddsoddi mewn sganwyr CT ac MRI yn helpu i gyflymu a gwella diagnosis, sy'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.  Mae £4.5m ychwanegol ar gael bob blwyddyn i wella gwasanaethau, ac yn gynharach yn y mis cyhoeddais fod £12m ychwanegol ar gael i wella'r cyfleusterau yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru.

Mae ffigurau'r amserau aros diweddaraf ar gyfer canser hefyd yn dangos bod cleifion yn cael triniaeth yn gyflymach nag erioed.  Mae bron pob claf yn dechrau ar ei driniaeth o fewn amserau targed, a bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cyfraddau goroesi.