Mae'r adroddiad annibynnol gan Mr James Steers, llawfeddyg niwrolegol ymgynghorol, hefyd yn nodi y dylai cleifion barhau i gael niwrolawdriniaeth brys a thrwy apwyntiad mewn canolfannau arbenigol rhanbarthol yn Lloegr.
Mae'n nodi y bydd yn rhaid i gleifion niwroleg â gofynion diagnostig neu driniaeth cymhleth fynd i Ganolfan Walton. Bydd llawer o gleifion yn cael triniaeth yn eu hysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn y Gogledd, gan gynnwys rhai a fydd angen gofal dwys. Mewn achosion o'r fath, byddai meddyg ymgynghorol yn cael ei enwebu fel y prif gyswllt rhwng yr ysbyty lleol a'r uned niwrowyddoniaeth, sef un o'r meddygon ymgynghorol sy'n gyfrifol am yr ysbyty cyffredinol dosbarth fel arfer.
Yr adroddiad ar wasanaethau niwrowyddorau i oedolion yn y Gogledd yw'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ar ddyfodol gwasanaeth niwrowyddorau ledled Cymru.
Mae'n nodi'r canlynol:
- Dylid sefydlu Gwasanaeth Niwroleg y Gogledd er mwyn darparu niwroleg feddygol, gwasanaethau rheoli strôc a niwroffisioleg, gyda gwasanaethau estynedig mewn ysbytai eraill yn y rhanbarth;
- Dylid sefydlu Gwasanaeth Niwroleg y Gogledd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gyda gwasanaethau estynedig yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam;
- Dylid sefydlu canolfan adfer niwroleg i gleifion mewnol;
- Dylid sefydlu gwasanaethau llawdriniaeth asgwrn gefn anghymhleth.
Meddai Mr Steers:
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi siarad ag ystod eang o weithwyr proffesiynol, sefydliadau a grwpiau cleifion, ac wedi adolygu'r dystiolaeth a'r data oedd ar gael i lunio cyfres o argymhellion i roi'r gofal gorau i gleifion – boed yng Nghymru neu yn Lloegr.
Yn dilyn fy ngwerthusiad, rwyf o'r farn bod lle i ddod â llawer o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn Lloegr ar hyn o bryd yn agosach at bobl yn y Gogledd, a chadw triniaeth ddiogel ac effeithiol o safon uchel. Fodd bynnag, o ystyried cymhlethdodau niwrolawdriniaeth, roedd y grw^p o'r farn mai cadw'r gwasanaeth hwn yng Nghanolfan Walton yn Lerpwl oedd y dewis gorau.
Wrth dderbyn yr argymhellion, meddai Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd:
Fy nod yw cynnig cynifer o wasanaethau gofal iechyd lleol â phosibl i gleifion lle mae modd eu darparu'n ddiogel ac yn effeithiol. Lle nad oes modd eu darparu'n lleol, a lle mae'n rhaid darparu triniaeth hynod arbenigol sydd ar gael dim ond mewn rhai canolfannau rhanbarthol yn y DU, bydd yn rhaid i gleifion deithio i gael y gofal hwn yn Lloegr.
Rwy'n falch o gael adroddiad Mr Steers sy'n amlinellu sut gallaf wella gwasanaethau i gleifion. Rwyf wedi gofyn i Swyddog Ranbarthol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd gydlynu'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu wedi'i gostio ar gyfer yr argymhellion hyn. Dylid rhoi'r rhain ar waith o fewn pum mlynedd er mwyn i gleifion dderbyn mwy o wasanaethau gwella yn lleol, gan leihau'r angen i deithio.
Bydd yr argymhellion hyn hefyd yn helpu i wella gofal i bobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson, nychdod cyhyrol, sglerosis ymledol a strôc.
Mae wedi fy siomi bod straeon gwallus am yr adolygiad a'i ganlyniadau posibl wedi ymddangos dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd llawer o'r rhain yn dweud y byddai gorfodaeth ar bobl i deithio i'r De i gael triniaeth i achub bywyd. Fy nod drwy gydol hyn oedd gwella gwasanaethau i gleifion yn y Gogledd. Dyna mae'r adroddiad hwn yn llwyddo i'w wneud.