Y Gweinidog dros Iechyd yn nodi agor adeilad newydd £2.7m wedi'i ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad

Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2008
Heddiw (dydd Llun 14 Gorffennaf), aeth Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i seremoni mewn darlithfa bwrpasol newydd ar gyfer y nifer gynyddol o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd Edwina Hart yn cwblhau'r lefelu concrit ar ail lawr yr adeilad. Bydd y seremoni yn nodi carreg filltir allweddol o ran cwblhau gwaith i ddatblygu strwythur y ddarlithfa newydd.

Mae prosiect y ddarlithfa newydd, sydd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan y mae'r Ysgol yn ei rannu gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi elwa ar £2.7 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yn cynnwys darlithfa â 373 o seddi, pum ystafell seminarau ac ystafell bwrpasol ar gyfer sgiliau clinigol lle bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau allweddol fel gosod dripiau.

Dechreuwyd adeiladu'r datblygiad uchelgeisiol ym mis Gorffennaf 2007, a bydd yn cael ei gwblhau mewn pryd i groesawu myfyrwyr meddygol newydd Caerdydd, sydd wedi cynyddu o 180 i 305 yn y pum mlynedd diwethaf.

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Mae'n bleser gennyf fod yma i nodi'r garreg filltir allweddol hon yn natblygiad Ysgol Feddygaeth Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd a'r cyfleusterau gorau i hyfforddi staff meddygol y dyfodol. Bydd yr adeilad amlbwrpas newydd hwn yn galluogi myfyrwyr i elwa ar offer clywedol a chyfleusterau dysgu arloesol mewn lleoliad cyfleus ac ymarferol.

Bydd y ddarlithfa, a fydd yn gallu dygymod â'r galw cynyddol am hyfforddiant meddygol yng Nghaerdydd, hefyd yn lleoliad rhagorol ar gyfer cyflwyniadau a chynadleddau. Bydd hyn yn hybu enw da Ysgol Feddygaeth Caerdydd fel un o'r cyfleusterau ymchwil gorau yn y byd.

Meddai'r Athro Helen Houston, Deon Astudiaethau Israddedigion Prifysgol Caerdydd:

Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi bod yn gadarnhaol iawn ynghylch ein cynlluniau i ddefnyddio'r ddarlithfa newydd ar gyfer ein hisraddedigion meddygol. Mae staff a myfyrwyr yr Ysgol yn edrych ymlaen at gwblhau'r adeilad a'r cyfleoedd dysgu newydd fydd ar gael.

Meddai Robert Adlam, Rheolwr Prosiectau Prifysgol Caerdydd:

Mae'r Brifysgol wedi bod yn rhan annatod o'r ysbyty ers ei sefydlu ar ddechrau'r saithdegau. Bydd y datblygiad hwn i wella ymchwil meddygol ac adnoddau addysgol ar y safle yn gwella'r berthynas hon tua'r dyfodol.

Y contractwyr Leadbitter, sydd ag adran weithredol yng Nghaerdydd, fu'n goruchwylio'r gwaith o lefelu'r adeilad.

Meddai Rob Bradley, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Leadbitter:

Bydd yr adeilad yn lle ysbrydoledig i ddysgu ynddo, gyda chyfuniad o gyfleusterau modern a'r nodweddion pensaernïol diweddaraf.

Mae prosiect y ddarlithfa'n rhan annatod o gynyddu nifer yr israddedigion meddygol yng Nghymru. Mae'n ategu'r Rhaglen Mynediad Graddedig, sef prosiect a sefydlwyd ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth GIG Abertawe gynt (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe, Bro Morgannwg bellach), Prifysgol Cymru Abertawe (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe) a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd bellach). Mae'r cynllun cynyddu yn golygu y bydd modd i fwy na 360 o fyfyrwyr meddygol hyfforddi yng Nghymru bob blwyddyn.