Mae adrannau Patholeg yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Y Cyfarwyddwr Clinigol yw Dr Jason Shannon; Rheolwr y Gyfarwyddiaeth yw Glyn Evans .
Mae Patholeg yn perfformio archwiliadau ar bob math o sbesimenau er mwyn dod i benderfyniad ar glefydau a heintiau cleifion ac i gynorthwyo yn y broses o wneud diagnosis. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn darparu’r canlynol:
- Haematoleg – anhwylderau gwaed
- Banc Gwaed – trallwysiad
- Biocemeg – anhwylderau cemegol
- Microbioleg – heintiau
- Histopatholeg - meinwe lawfeddygol a phost-mortem
- Cytoleg – diagnosis ceg y groth a diagnosis nad yw’n gynecolegol
- Haematoleg Glinigol – triniaeth ar gyfer anhwylderau gwaed
- Mortiwari
- Rheoli Heintiau