
Amdanom Ni
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cyflogi caplan llawn amser, sy’n derbyn cefnogaeth gan gaplaniaid lleol rhan amser a thîm bach o ymwelwyr gwirfoddol y Gaplaniaeth. Rydym yn anelu at ymweld â phob safle a’r wardiau’n rheolaidd. Mae gan y gaplaniaeth gysylltiadau lleol â phob prif grefydd ac enwad. Cysylltwch â’r caplaniaid am ragor o wybodaeth.
Tîm y Gaplaniaeth
Ein gwaith ni yw gofalu am eich anghenion ysbrydol, crefyddol a bugeiliol chi. Gall hyn gynnwys unrhyw beth o’ch helpu chi i ddilyn eich traddodiad crefyddol, neu drwy roi amser i wrando arnoch chi a’ch profiad o fod yn yr ysbyty. Rydym yn anelu at gynnig cysur a chymorth ac rydym ar gael i bawb, p’un ai fod ffydd arbennig gennych neu ddim ffydd. Mae ein caplaniaid yn dod o draddodiadau Pabyddol, Anglicanaidd a’r Eglwys Rydd ac mae ganddynt fynediad hefyd at arweinwyr ysbrydol o grwpiau ffydd eraill.
Mae’r canlynol gennym:
- Caplaniaid gofal critigol
- Caplan iechyd meddwl penodedig
- Caplan gofal lliniarol
- Caplaniaid ysbytai cymunedol
Rydym yn gofalu am y canlynol:
- Cleifion
- Perthnasau / Ymwelwyr
- Staff
Mae croeso i’ch cynrychiolwyr crefyddol eich hun ymweld â chi yn ystod eich arhosiad, cysylltwch â’r Caplaniaid os bydd unrhyw ymholiadau neu ofynion arbennig gennych.
Yr hyn y gallwn ei wneud
Mae e ond yn naturiol y byddwch chi’n teimlo’n bryderus efallai am orfod treulio amser yn yr ysbyty am driniaeth. Efallai y bydd meddyliau a phryderon gan berthnasau a ffrindiau hefyd. Gall fod o fudd i’w rhannu’n gyfrinachol â Chaplan.
Os oes ffydd grefyddol gennych chi mae hi’n bwysig eich bod yn gallu parhau i ymarfer eich ffydd tra byddwch chi yn yr ysbyty.
Mae caplaniaid yn gallu gwneud y canlynol hefyd:
- Gwrando
- Ymweld â chi
- Eich helpu i ddechrau deall yr hyn sydd wedi digwydd
- Gweddïo gyda chi
- Cynnal y rhai sy’n galaru
- Cysylltu â gweinidog eich ffydd eich hun
- Parchu eich dymuniad i gael llonydd
Aml-ffydd
Mae holl gapeli’r ysbytai’n ystafelloedd aml-ffydd sydd wedi’u darparu â deunyddiau ac eitemau i gynorthwyo addoli crefyddol. Maent hefyd yn fannau tawel i fyfyrio hefyd i’r rhai sydd â dim ffydd ganddynt.
Cysylltu
Os hoffech weld caplan yn benodol, gofynnwch i’ch nyrs staff neu wrth y dderbynfa.
Rydym yn ymgeisio i ddarparu gwasanaeth Ar Alwad llawn. Defnyddiwch yr un cysylltiadau os bydd angen Caplan ar frys arnoch chi.
Fel arall am faterion llai brys gallwch adael neges ar beiriant ateb y gaplaniaeth neu â’r brif nyrs a fydd yn ei rhoi i’r caplan.
Gwirfoddolwyr
Mae tîm bach o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi sy’n ymweld â wardiau’n rheolaidd. Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr newydd drwy’r amser a rhoddir hyfforddiant llawn i bob ymgeisydd sy’n meddwl am y weinidogaeth hon.