Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, corff gwarchod gofal iechyd annibynnol Cymru, yn lansio ei seithfed Adroddiad Blynyddol heddiw.
Swyddogaeth AGIC yw rhoi sicrwydd i gleifion a’r cyhoedd bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel ac o ansawdd da. Er mwyn gallu gwneud hyn, mae AGIC yn cynnal arolygiadau ac ymchwiliadau ynglŷn â’r gwasanaethau gofal iechyd a gomisiynir ac a ddarperir gan y GIG yng Nghymru a chyrff gofal iechyd annibynnol, ac yn gwneud argymhellion er mwyn gwella ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, a’i wneud yn fwy effeithlon, effeithiol a diogel.
Mae’r adroddiad blynyddol yn bwrw golwg yn ôl ar weithgareddau eang AGIC yn ystod 2010-2011, yn ogystal ag edrych ar yr heriau sydd o’i blaen.
Meddai Peter Higson, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
‘Hwn yw seithfed adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Yn 2010-2011, gwelwyd mwy o newidiadau arwyddocaol yn y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru, gan arwain at lansiad Law yn Llaw at Iechyd ym mis Tachwedd 2011 gan Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth 5 mlynedd newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yw hon, ac mae wedi ei seilio ar wasanaethau yn y gymuned. Mae’n canolbwyntio ar gleifion, ac yn gosod ansawdd a thryloywder, ac atal salwch wrth wraidd gofal iechyd.
Mae hon yn ddogfen o bwys i’r GIG yng Nghymru, a byddwn yn sicrhau bod rhaglen waith AGIC yn ystod y blynyddoedd nesaf yn adlewyrchu ac yn ymateb i’r newid ym mhatrwm y ddarpariaeth, a’r modd y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu fwyfwy mewn cydweithrediad â’r cleifion eu hunain, a phartneriaid statudol a phartneriaid trydydd parti’r GIG’.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Adroddiad Blynyddol 2010 -2011 - Llythyr Cyflwyno
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Adroddiad Blynyddol - Datganiad i'r Wasg
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Adroddiad Blynyddol - Adroddiad
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Adroddiad Blynyddol - Holiadur
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Adroddiad Blynyddol - Appendix B