Strategaeth ar Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2011-14

Dydd Mercher, 12 Ionawr 2011
CAREM GLYWED EICH BARN!              CYFLE I DDWEUD EICH DWEUD!
Mae’r Bartneriaeth dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (IGCaLl / HSCWB) yn Rhondda Cynon Taf (sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Cyngor Bwrdeistref RhCT a chynrychiolwyr o’r Trydydd Sector a grwpiau cymunedol) yn cynnal ymgynghoriadau ar y Strategaeth IGCaLl newydd. Carem glywed eich sylwadau chi amdani. Ydyn ni’n canolbwyntio ar y pethau iawn yn eich barn chi, neu ydych chi’n credu ein bod wedi anwybyddu problemau pwysig?
 
Cynllun tair blynedd i RhCT yw’r Strategaeth ar Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, a fydd mewn grym trwy’r cyfnod 2011-2014. Mae’n egluro sut byddwn ni’n gweithredu gwelliannau yn iechyd a lles poblogaeth ein hardal. Dyma ein trydedd strategaeth, sy’n adeiladu ar sail ein cyd-lwyddiannau ers 2005.
 
Nid dim ond mater o drin a gofalu am bobl sy’n sâl mo’r Strategaeth, er bod hon yn elfen bwysig wrth gwrs. Mae’n anelu hefyd at gadw pawb yn heini ac yn annibynnol, gan helpu pobl i fyw bywyd i’r eithaf. Mae’n ystyried ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a lles pobl gan gynnwys swyddi, cartrefi a chludiant, yn ogystal ag anghenion grwpiau penodol megis pobl hŷn a phobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.
 
Mae’r Strategaeth ddrafft ar-lein i’w darllen, ynghyd â holiadur lle gallwch chi fynegi eich syniadau a’ch sylwadau. Cewch chi e-bostio eich ateb i deb.griffiths@wales.nhs.uk neu bostio copi papur ohono at:
 Bwrdd Iechyd Cwm Taf
RHADBOST RRBH-TBTT-SBRT
Tŷ Ynysmeurig
Parc y Navigation
Abercynon CF45 4SN     
 
Fe gynhelir yr ymgynghoriadau o’r 30ain o Ragfyr 2010 tan y 25ain o Fawrth 2011. Bydd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau eraill yn ystod y misoedd nesaf, lle gallwch chi ddysgu rhagor.
 
I gael rhagor o fanylion galwch y Tîm Iechyd a Lles ar 01443 744800 neu anfonwch e-bost i deb.griffiths@wales.nhs.uk
 
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com