Rhestr o Fferyllfeydd yn Abertawe sy’n cynnig y gwasanaeth Rhestr o Fferyllfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnig y gwasanaeth Rhestr o Fferyllfeydd yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n cynnig y gwasanaeth Cyswllt i dudalen atal cenhedlu ac iechyd rhywiol ABM
Mae deunaw fferyllfa ar draws Abertawe bellach yn cynnig gwasanaeth atal cenhedlu brys am ddim i’w gwneud hi’n haws i fenywod a merched yn eu harddegau weithredu’n gyflym i osgoi beichiogrwydd nad ydynt ei eisiau. Mae hyn yn ogystal â’r 25 fferyllfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd hefyd yn cynnig y gwasanaeth am ddim, a’r 29 yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Mae’n haws cael mynediad at atal cenhedlu brys yn y ddinas nawr nag erioed o’r blaen, â rhes o fferyllwyr wedi’u hachredu a’u hyfforddi’n arbennig yn cynnig atal cenhedlu brys am ddim. Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael i rai dan 16 mlwydd oed, gan gynnig cymorth ymarferol i helpu osgoi beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau.
Eglurodd Steve Newbury, o Fferyllfa Newbury yn y Mwmbwls, beth yw atal cenhedlu brys. Meddai Steve:
“Gellir defnyddio atal cenhedlu hormonaidd brys (EHC) i’ch hatal rhag beichiogi os yw’ch atal cenhedlu wedi methu, neu heb gael ei ddefnyddio.
Mae EHC yn aml yn cael ei gyfeirio ato fel y “bilsen bore wedyn”. Gellir cymryd EHC hyd at 72 awr (3 diwrnod) ar ôl cael rhyw diamddiffyn, ond po gynharaf yr ydych yn ei gymryd, po fwyaf effeithiol y mae am atal beichiogrwydd. Ar ôl 72 awr dyw EHC ddim yn gweithio.
Mae’r gwasanaeth newydd yma’n cael ei ddarparu gan fferyllwyr cymunedol. Mae’r gwasanaeth yn anelu i gynyddu argaeledd a rhoi mynediad haws at EHC AM DDIM, a oedd ddim ond ar gael o glinigau iechyd rhywiol, meddygfeydd teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys tan yn ddiweddar.”
Gellir prynu EHC dros y cownter am £25 mewn fferyllfeydd eraill sydd ddim yn rhan o’r 18 fferyllfa wedi’u hachredu yn Abertawe sy’n cymryd rhan yn y cynllun – ond ni ellir gwerthu EHC i rai dan 16 mlwydd oed.
Y gobaith yw y bydd y cynllun EHC am ddim newydd yn ei gwneud hi’n llawer haws i bobl iau yn eu harddegau gael mynediad at atal cenhedlu brys cyn gynted â phosib ac mor gyfleus â phosib, heb y dewis blaenorol mwy cyfyngedig rhwng clinigau iechyd rhywiol, eu meddygon teulu neu unedau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer unrhyw un sy’n meddwl bod angen EHC arnyn nhw, gan gynnwys rhai dan 16 mlwydd oed. Cyn y gellir rhoi EHC i chi bydd rhaid i chi ateb ychydig o gwestiynau i weld a yw’n addas i chi. Bydd hyn yn gwbl gyfrinachol, ac ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gydag unrhyw un arall oni bai eich bod chi’n cytuno i hynny. Os na all y fferyllydd ddarparu EHC byddant yn eich cyfeirio at weithiwr proffesiynol/gwasanaeth gofal iechyd arall.
Oes rhaid i chi fynychu eich hunan?
Oes, fe fyddwch chi’n cael ymgynghoriad byr gyda’r fferyllydd a fydd yn penderfynu a oes angen i chi gael EHC. Nid yw’n bosib cael EHC i rhywun arall trwy’r gwasanaeth newydd yma na thrwy ei brynu dros y cownter.
Yw’r gwasanaeth yma ar gael ym mhob fferyllfa yn Abertawe?
Nag ydy, ddim eto. Ar hyn o bryd mae 18 fferyllfa gymunedol sy’n cynnig y gwasanaeth.
Mae fferyllwyr wedi gwneud hyfforddiant ychwanegol i gynnig y gwasanaeth yma. Bydd fferyllfeydd sy’n rhan o’r gwasanaeth yn dangos gwybodaeth yn eu ffenestri/drysau. Bydd gan fferyllfeydd nad ydynt yn cynnig y gwasanaeth restr o’r rhai sydd yn ei gynnig. Mae’r wybodaeth yma hefyd ar gael trwy Galw Iechyd Cymru ac ar wefan ABM.
Os oes rhaid i chi deithio pellter sylweddol i gyrraedd y fferyllfa gall fod yn werth ffonio cyn mynd i ofyn os yw’r fferyllydd sydd wedi’i hyfforddi i gynnig EHC ar ddyletswydd er mwyn arbed siwrnai seithug.
Sut mae EHC yn gweithio?
Mae un tabled yn cael ei llyncu. Mae EHC yn gweithio trwy atal eich hofarïau rhag rhyddhau wy, atal sberm rhag ffrwythloni unrhyw wy y gallech fod wedi’i ryddhau’n barod; neu trwy atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu’i hunan yn leinin y groth. Nid yw’n gweithio os ydych yn feichiog yn barod.
Oes unrhyw sgil-effeithiau?
Gallwch deimlo’n gyfoglyd ond ychydig iawn sydd yn chwydu mewn gwirionedd. Os fyddwch chi’n chwydu o fewn 3 awr ar ôl cymryd y dabled yna bydd angen i chi ddychwelyd at y fferyllydd neu’r meddyg i gael tabled arall.
A ellir defnyddio EHC fel dull atal cenhedlu rheolaidd?
NA ELLIR. Ni ddylid defnyddio EHC fel dull atal cenhedlu rheolaidd, ond gallwch ddefnyddio EHC mor aml ag sydd angen.
A fydd EHC yn amddiffyn yn erbyn afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol?
NA FYDD. Y cyfan a all EHC ei wneud yw atal beichiogrwydd os yw’n cael ei gymryd o fewn 72 awr, ni fydd yn amddiffyn yn erbyn afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol.
Pa gyngor arall a roddir?
Bydd cyngor ar lafar ac yn ysgrifenedig ynglŷn â rhyw mwy diogel a defnyddio dulliau atal cenhedlu rheolaidd, gan gynnwys defnyddio condomau yn cael ei roi ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau a all ddarparu triniaeth a chyngor a gofal pellach os oes angen.
Noder y dylid ffonio’r fferyllfa cyn cyfeirio’r claf i sicrhau bod y fferyllydd achrededig ar gael.
Fferyllfeydd yn Abertawe sy’n cynnig Atal Cenhedlu Hormonaidd Brys
| Enw’r Fferyllfa | Cyfeiriad | Rhif Ffôn |
| Boots | 17 Arcêd St Mary, Y Cwadrant | 01792 643461 |
| Fferyllfa Fewnol Sainsbury’s | Parêd y Cei | 01792 480926 |
| NCC – Ffordd y Brenin | 38 Ffordd y Brenin | 01792 458883 |
| NCC – Penlan | 24 Conway Road, Penlan | 01792 586444 |
| NCC – Pennard | Meddygfa Pennard, Heol Pennard | 01792 234219 |
| NCC – West Cross | 82 West Cross Lane | 01792 403578 |
| NCC – Gorseinon | 2 Alexandra Road | 01792 892252 |
| NCC – Ravenhill | 147 Ravenhill Road, Caereithin | 01792 581902 |
| NCC – Uplands | 55 Uplands Crescent | 01792 470575 |
| NCC – Parc Sgeti | 2 Park Way, Parc Sgeti | 01792 204711 |
| NCC – Townhill | Sgwâr Graiglwyd | 01792 652071 |
| NCC – Treforys | 103 Stryd Woodfield | 01792 771333 |
| NCC – Trefansel | 72 Heol Trefansel | 01792 653136 |
| Fferyllfa Lloyds - Clydach | 80 High St (Canolfan Gofal Sylfaenol Clydach) | 01792 842259 |
| Fferyllfa Lloyds - Clydach | 2 Heol y Nant | 01792 845649 |
| Fferyllfa Fewnol Tesco | Tesco Extra Fforest-fach | 01792 497847 |
| Fferyllfa Pearns | 298 Heol Caerfyrddin (Canolfan Feddygol Cwmfelin) | 01792 463213 |
| S R Newbury | 35/37 Newton Rd, Y Mwmbwls | 01792 366120 |
| | |||
| Enw’r Fferyllfa | Cyfeiriad y Fferyllfa | Oriau agor | Rhif Ffôn |
| Fferyllfa Balkwill | 102/104 John St Porthcawl | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 782013 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf | 11 Lias Road Porthcawl | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 5.30pm | 01656 772443 |
| Fferyllfa Boots Cyf | 72/74 John St Porthcawl | Llun – Sadwrn: 9am – 5.30pm | 01656 782508 |
| Parmar & Rogers | 104 New Road Porthcawl | Llun – Gwener: 9am – 6pm Mercher a Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 782695 |
| Andojg Ltd | 1 Bridge Street Mynyddcynffig | Llun – Gwener: 9am – 6pm Mercher a Sadwrn: 9am - 1pm | 01656 745600 |
| Fferyllfa Lloyds | 1 Pisgah Street Mynyddcynffig | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 1pm | 01656 745866 |
| Fferyllfa Lloyds | 8 Hall Drive Gogledd Corneli | Llun – Gwener: 9am – 6pm Mercher: 9am – 5.30pm Sadwrn: 9am – 1pm | 01656 740291 |
| Fferyllfa Boots Cyf | 8 Stryd Caroline Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Sadwrn: 8.45am – 5.30pm Mawrth: 9am – 5.30pm | 01656 659221 |
| S R Bailey | 50 Stryd Nolton Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Gwener: 9am – 5.30pm Sadwrn: 9am-1pm | 01656 652025 |
| Fferyllfa Lloyds | 48 Stryd Nolton Pen-y-bont ar Ogwr | Llun - Gwener: 9am – 5.30pm Sadwrn: 9am - 1pm | 01656 653966 |
| Fferyllfa Lloyds | 106 Stryd Nolton Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Gwener: 9am – 6pm (ar gau 1-2) | 01656 657845 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf | Canolfan Siopa’r Triongl, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr | Llun - Gwener: 8.30am – 7pm Sadwrn: 9am – 5.30pm | 01656 669802 |
| Fferyllfa Cefn Glas | 56 Heol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Gwener: 9am – 6pm Iau: 9am – 5.30pm Sadwrn: 9am – 12 canol dydd | 01656 668214 |
| G & EJ Morris | Gentle Way, Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Gwener: 9am – 5.30pm Sadwrn: ar gau | 01656 660007 |
| Fferyllfa Sainsbury | Y Dderwen Pen-y-bont ar Ogwr | Llun – Sadwrn: 8am – 9pm Gwener: 8am – 10pm Sul: 10am - 4pm | 01656 648912 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf | Heol Bryncoch Sarn | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 1pm | 01656 720467 |
| Fferyllfa Matthew Price | 43 Commercial St Maesteg | Llun – Gwener: 9am – 5.30pm (ar gau 1-2) Sadwrn: 9am-1pm | 01656 732106 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf | Uned 4 Heol Llynfi Maesteg | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 733289 |
| K A Patel | 20 Stryd Talbot Maesteg | Llun – Gwener: 9am – 5.30pm Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 732278 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf | Stryd Fictoria Pontycymer | Llun – Gwener: 8.30am – 6pm Sadwrn: 8.30am – 12.30pm | 01656 870317 |
| Lloyds | Clinig Iechyd Pontycymer | Llun – Gwener: 8.30am – 6pm Sadwrn: 8.30am – 11am | 01656 870372 |
| A & JM Sheppard | 2 Heol Penybont, Pencoed | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 860480 |
| A & JM Sheppard | 30 Heol Penybont, Pencoed | Llun – Gwener: 9am – 6pm Sadwrn: 9am – 5pm | 01656 860480 |
| Fferyllfeydd Co-op Cenedlaethol Cyf/ Fferyllfa Fewnol Pioneer | Ystad Ddiw. Croes y Pîl | Llun – Sadwrn: 8.30am – 8pm Sul: 10am – 4pm | 01656 740269 |
| G L Rowe | 22 Stryd Ogwy, Nant-y-moel | Llun – Gwener: 9am – 6pm Mercher: 9am – 4pm Sadwrn: 9am – 12 canol dydd | 01656 840440 |
Noder mai dim ond fferyllwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig a gaiff ddarparu ddarparu EHC. Efallai na fydd y fferyllwyr hyn wastad ar gael. Cofiwch ffonio i ofyn cyn ymweld â’r fferyllfa. Gall oriau agor amrywio o’r rhai a nodir.