Pa wybodaeth sydd ar gael i chi?
Bydd yr adnodd ar-lein hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- DVD sy'n rhoi braslun o'r hanes;
- Asesu Effaith – Casglu'r Dystiolaeth [Saesneg yn unig];
- Y newyddion diweddaraf ar Facebook a Twitter;
- Y newyddion diweddaraf am y cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn.
I gael y wybodaeth hon:
E-bost: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.ukMynd i'n gwefan: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/yourhealth-yourfutureYsgrifennu atom yn: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Rydym yn gwrando…
Credwn fod pobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn haeddu’r system gofal iechyd sydd gyda'r gorau yn y byd ac sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau’r holl bobl leol. Byddem yn croesawu eich sylwadau yn ystod y cyfnod hwn o ymgysylltu.
Byddwn yn defnyddio’r sylwadau er mwyn llywio’r broses o ddatblygu’r opsiynau a fydd yn yr ymgynghoriad ffurfiol ganol 2012.Rhannwch eich sylwadau
Gallwch roi’ch barn fel unigolyn neu ar ran grŵp neu sefydliad drwy:
Ysgrifennu i:Opinion Research ServicesFreepost (SS1018)PO Box 530Abertawe SA1 1ZL
Beth fyddwn yn ei wneud â'ch sylwadau?
Caiff yr holl sylwadau yr ydym yn eu derbyn yn ystod y cyfnod hwn o wrando ac ymgysylltu eu cofnodi a'u coladu. Caiff y sylwadau eu dadansoddi gan ORS, sef cwmni ymchwil cymdeithasol annibynol, a bydd hyn yn llywio penderfyniad y Bwrdd Iechyd ar waith ymgynghori'r dyfodol.
Nodwch ein bod yn bwriadu cyhoeddi’r ymatebion i’r ddogfen hon yn llawn ar ein gwefan. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad yr awdur eu nodi gyda’r ymateb. Os nad ydych am gael eich adnabod fel awdur eich ymateb, dylech nodi hyn yn glir wrth ysgrifennu atom.