Canllaw cam wrth gam: Ymgeisio i fod yn wirfoddolwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Mae sgwrs gychwynnol yn gyfle i drafod y math o wirfoddoli y mae gennych ddiddordeb ynddo a gweld a fydd gwirfoddoli â ni yn gweddu i’ch anghenion chi a’n hanghenion ni.

Byddwn yn rhoi ffurflen gais i chi os credwn eich bod yn addas ac os hoffech wirfoddoli â ni. Bydd angen enwi dau berson y gallwn gysylltu â nhw am eirda.

Caiff cyfweliad ei gynnal gyda’r adran yr hoffech wirfoddoli ynddi pan fyddwn wedi derbyn eich ffurflen gais ac yn fodlon â hi.

Bydd rhaid cynnal gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol / Geirdaon / Gwiriad Iechyd Galwedigaethol os byddwch yn llwyddo yn y cyfweliad er mwyn sicrhau eich bod yn rhydd i wirfoddoli.

Bydd angen cael anwythiad byr cyn dechrau yn eich rôl wirfoddoli.

Ar ôl cwblhau’r holl wiriadau a’r anwythiad gallwch ddechrau fel gwirfoddolwr.

Mae nifer o rolau gwirfoddoli yn cael eu datblygu ledled y Bwrdd Iechyd ar y safleoedd canlynol: Ysbyty Tywysog Philip (Llanelli), Ysbyty Cyffredinol Glangwili (Caerfyrddin), Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (Hwlffordd), Ysbyty Cyffredinol Bronglais (Aberystwyth), ysbytai cymunedol, safleoedd iechyd meddwl ac anableddau dysgu a safleoedd gofal sylfaenol.
Cyn ymrwymo i rôl wirfoddol, mae’n bwysig ystyried a fyddech ar gael i fynychu’n rheolaidd ac am gyfnodau rhesymol o ran hyd.
Dechrau arni
Bydd pob gwirfoddolwr yn mynd ar gyfnod prawf sy’n rhoi cyfle i’r gwirfoddolwyr a’r staff ddod i adnabod ei gilydd a phenderfynu a yw’r rôl wirfoddoli yn gweddu iddyn nhw.
Iechyd a diogelwch
Disgwylir i wirfoddolwyr gydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Fel gwirfoddolwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, rhaid ystyried a pharchu gweithdrefnau gweithio’n ddiogel bob tro.
Cyfrinachedd
Mae cyfrinachedd yn rhan bwysig iawn o wirfoddoli. Yn ystod eich amser fel gwirfoddoli mae’n bosibl y byddwch yn clywed a gweld pethau sy’n bersonol i gleifion, staff, ymwelwyr a gwirfoddolwyr eraill ac weithiau byddwch yn adnabod y bobl hyn. Bydd disgwyl ichi gadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol a pheidio â’i rhannu â neb arall.
Sut alla i gael rhagor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Prosiect Gwirfoddoli dros Iechyd :
David Fretwell, Nia Gibbon a Lesley Jones
E-bost: HDd.VolunteerForHealth@wales.nhs.uk
Gwefan: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/gwirfoddoli
Rhif ffôn ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro: 01267 244344
Rhif ffôn ar gyfer Ceredigion: 01570 424109
Ysgrifennwch i:
Tîm Prosiect Gwirfoddoli dros Iechyd
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Canolfan Adnoddau Parcyffynnon
22 Parcyffynnon
Caerfyrddin SA31 1DS
Nodwch: Rhaid i bob gwirfoddolwr fynd trwy broses wirio’r Swyddfa Cofnodion Troseddol er mwyn sicrhau diogelwch gwirfoddolwyr, cleifion a staff.