
Mae bwydo ar y fron yn helpu i aeddfedu perffedd y baban, yn helpu i osgoi heintiau, yn lleihau’r risg o enterocolitis necrotigol, ac yn hybu datblygiad niwrolegol baban. Mae llaeth y fam a llaeth rhoddwr yn cael yr un effaith.
Dengys tystiolaeth fod baban nad yw’n cael ei fwydo ar y fron yn bum gwaith mwy tebygol o gael ei dderbyn i ysbyty yn dioddef o lid y stumog a’r perfedd na baban sydd yn cael ei fwydo ar y fron. Yn ogystal, mae baban nad yw’n cael ei fwydo ar y fron yn fwy tebygol o fod yn rhy drwm neu’n ordew, ac yn fwy tebygol o ddioddef pwysedd gwaed uchel, cholesterol uchel, eczema, diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd (CVD) pan yn oedolyn. Mae’r risg o ddioddef canser y fron a chanser yr ofari yn llai mewn menywod sy’n bwydo ar y fron, ac hefyd meant yn llai tebygol o ddioddef iselder ôl-enedigol, a dioddef esgyrn gwan yn hwyrach mewn bywyd. Os ydych yn dymuno gwybod mwy am fwydo ar y fron, gofynnwch i’r fydwraig neu’r ymwelydd iechyd sy’n gofalu amdanoch.
Mamau’n Rhoi Cymorth i’w Gilydd i Wneud Bwydo ar y Fron yn Haws
Gall mamau sydd am fwydo ar y fron ond sy’n ei chael hi’n anodd gael cymorth gan fyddin o Gyfeillion Cefnogol ar hyd a lled Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Cliciwch yma i weld y stori llawn.