Croeso i Gynllun Iaith Gymraeg cyntaf Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda sy’n amlinellu’n cynllun tair blynedd i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a bod y Cynllun yn cael effaith bositif ar y gofal a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i’n poblogaeth a’n cleifion.
Mae uno Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda a Byrddau Iechyd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhoi cyfle delfrydol i gyfuno arfer da'r sefydliadau blaenorol mewn un cynllun, gan gyflenwi gofal iechyd o’r safon uchaf posibl wedi ei hoelio gan ddealltwriaeth gadarn o anghenion lleol ac unigol.
Ein nod yw creu system gofal iechyd cynaliadwy ar gyfer poblogaeth y tair sir. Drwy wneud hyn, mae’n rhaid i ni sicrhau bod clinigwyr, y cyhoedd a chleifion wrth wraidd y ffordd rydym yn llywio strategaeth. Mae hefyd rhaid i ni sicrhau partneriaethau gweithio arwyddocaol, nid yn unig gyda’r awdurdodau lleol ond gyda’r trydydd sector. Bydd y ddau yn gwbl sylfaenol i yrru systemau a llwybrau gofal newydd.
Rydym yn cydnabod bod yn well gan aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn a chyfleu angen yn eu hiaith gyntaf, ac mai arfer da yn hytrach na chonsesiwn yw galluogi pobl i ddefnyddio’r iaith sydd orau ganddynt, ac y byddai gwrthod yr hawl honno neu fethiant i ddarparu hyn yn effeithlon ac yn effeithiol yn gallu gosod ein cleifion, defnyddwyr ein gwasanaeth a theuluoedd o dan anfantais wirioneddol. Byddwn, felly, yn rhagweithiol wrth gynnig yr hawl i’r cyhoedd i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth iddynt ymwneud â’n sefydliad.
Ein nod yw galluogi pawb sy’n derbyn neu’n defnyddio’n gwasanaeth i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, yn unol â dewis personol ac i annog defnyddwyr a darparwyr eraill i ddefnyddio a hyrwyddo’r Iaith Gymraeg o fewn y sector iechyd.
Mae profiad cleifion, gofalwyr a staff wrth wraidd ein Cynllun Iaith Gymraeg a’n nod yw symud arfer ymlaen a gwella canlyniadau i bawb.