Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn amgylchedd di-fwg. Peidiwch ag ysmygu unrhyw le ar ein safleoedd

Newyddion

Hidlo Newyddion
Cofnodion 151 i 175 o 2417
  • Cyhoeddi dogfennau Adolygiad Gwella Iechyd

    Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae dogfennau wedi cael eu cyhoeddi yn amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd mewn dau ddigwyddiad ymgysylltu â thema yng Ngogledd a De Cymru ym mis Hydref 2012 fel rhan o’r Adolygiad Gwella Iechyd.
     

  • Timau yn GIG Cymru yn gweithio i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar bobl a chleifion

    Dydd Llun, 21 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
    Sicrhau Gofal sy'n Cael ei Lywio gan y Claf a'r Unigolyn yw thema e-gylchlythyr diweddaraf 1000 o Fywydau a Mwy. Mae Timau ledled GIG Cymru yn trafod sut y maent yn sicrhau mai cleifion yw canolbwynt eu gwaith.

  • Ceisio barn am yr angen am Fil Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Llywodraeth Cymru yn casglu barn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil i wella iechyd pobl Cymru.
     

  • Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £82 miliwn i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Bydd dros 2,000 o fyfyrwyr newydd a dros 6,100 o fyfyrwyr presennol yn parhau i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2013/14, meddai Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd.
     

  • Canllaw newydd i wasanaethau iechyd a lles llyfrgelloedd

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llyfrgelloedd Cymru a Lles Cymru i gyhoeddi canllaw newydd i’r gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael mewn llyfrgelloedd.
     

  • Dirprwy Weinidog yn croesawu Adroddiad Blynyddol AGGCC

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Mae'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas wedi croesawu adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar gyfer 2011-12.
     

  • Hybu ffordd iach o fyw yn swyddfa’r Llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Ddydd Mercher, 23 Ionawr, cynhelir digwyddiad iechyd a lles yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno er mwyn annog pobl i fyw bywydau iachach.
     

  • Canslo clinigau yn Sir Benfro a Ceredigion

    Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
     O ganlyniad i’r tywydd mae nifer o glinigau yn ysbytai Llwynhelyg a Dinbych-y-pysgod wedi’u canslo.

  • Cronfa Technolegau Iechyd gwerth £25m i Gymru

    Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Bydd £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn hybu buddsoddiad yn y dechnoleg iechyd ddiweddaraf, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.
     

  • 999 ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys – a dim byd arall

    Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd ac Achosion Brys, yn apelio ar y cyhoedd yng Nghymru i feddwl ddwywaith cyn ffonio 999.
     

  • Rhaglen MEND o dan reolaeth newydd

    Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae ‘r fenter gymdeithasol a’r elusen Mytime Active wedi caffael MEND Canolog, sy’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu plant yng Nghymru i gael ffordd o fyw iachach a mwy egnïol.

  • System newydd i wella safonau yn GIG Cymru

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Bydd system newydd i asesu ansawdd gwasanaeth o fewn y GIG ac i rannu’r canfyddiadau â’r cyhoedd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru eleni.
     

  • Unedau Dibyniaeth Uchel ac Obstetreg Gymhleth Newydd

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu sefydlu Uned Dibyniaeth Uchel i Blant ac Uned Obstetreg Gymhleth am y tro cyntaf erbyn diwedd 2015.

  • Gwella gofal iechyd nawr ac i’r dyfodol

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion - a ddiwygiwyd o ganlyniad i’r ymateb a gafwyd i’r ymgynghoriad a’r dystiolaeth a gafwyd - er mwyn darparu gwasanaethau gofal iechyd o’r radd flaenaf i’r boblogaeth yn lleol, nawr ac i’r dyfodol.

  • Y penderfyniad - Gofal Brys

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Cadarnhawyd mewn Cyfarfod Arbennig o’r Bwrdd y bydd adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, pedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos, yn cael eu darparu yn Aberystwyth, Caerfyrddin a  Hwlffordd. Byddant yn cael eu cyd-leoli â chyfleusterau penderfyniadau clinigol ac asesu pwrpasol.

  • Darparu gwasanaethau mân anafiadau yn nes at y cartref

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn rhoi gofal yn nes at y cartref drwy ddarparu gwasanaethau mân anafiadau mewn lleoliadau yn y gymuned yn y dyfodol, ac mae wedi gwrando ar yr adborth yn ystod yr ymgynghoriad ac bydd yn darparu gwasanaeth ychwanegol yn Ninbych-y-pysgod pan fydd twristiaeth yn ei hanterth. 

  • Adran Orthopaedig newydd i gael ei datblygu yn Ysbyty Tywysog Philip

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau ei fod wedi gwrando ar yr adborth o’r ymarfer ymgynghori, a bydd llawdriniaethau orthopaedig arhosiad byr, gan gynnwys ailosod clun a phen-glin yn parhau i gael eu darparu ym mhob un o’r tair sir.

  • Darparu gwasanaethau Mynydd Mawr mewn modd arall er mwyn dod â gofal nes at adref

    Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Heddiw, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda drosglwyddo’r gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu yn Ysbyty Mynydd Mawr yn y Tymbl i mewn i’r gymuned a sefydlu gwasanaeth newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

  • Cyfarfod arbennig y bwrdd i ystyried ymgynghoriad gofal iechyd

    Dydd Llun, 14 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried adborth ei ymgynghoriad a thystiolaeth i wneud penderfyniadau am sut y gall ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o’r radd flaenaf i’r boblogaeth leol, mewn cyfarfod arbennig ddydd Mawrth 15 Ionawr.

  • Pythefnos ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru

    Dydd Llun, 14 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
    Dim ond pythefnos sydd ar ôl i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru sy'n dathlu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio sy'n trawsnewid gofal cleifion ledled Cymru.

  • Lansio gwobrau i anrhydeddu arwyr iechyd milwrol

    Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru
    Lansiwyd cynllun gwobrau i gydnabod ymdrechion ar y cyd rhwng y GIG a’r fyddin wrth iddynt roi triniaeth a gofal am y lluoedd arfog.
     

  • Defnyddio storïau cleifion i lywio gwelliannau i wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf

    Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013, 1000 o Fywydau a Mwy
     "Mae storïau cleifion yn offeryn pwerus i lywio newidiadau mewn gwasanaethau. Gallwn ddysgu beth sy'n llwyddiannus o safbwynt y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a rhannu'r arfer da hwnnw â chydweithwyr,” meddai Kathryn Doughton, Arweinydd Storïau Gwella Ansawdd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

  • Nyrsys i arwain ymgyrch i leihau anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol

    Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflenwi ymgyrch arloesol i leihau’r don gynyddol o oryfed mewn pyliau ac anafiadau’n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru.

  • Graffiti lliwgar ar balmentydd ysbytai Gogledd Cymru

    Dydd Iau, 10 Ionawr 2013, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae celf graffiti lliwgar wedi cael ei roi ar balmentydd o gwmpas tir ysbytai ar draws Gogledd Cymru i annog pobl i roi’r gorau iddi yn 2013. 

  • Yn dilyn achosion o’r ffliw tymhorol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfyngu ar ymweliadau i Ysbyty Llwynhelyg

    Dydd Llun, 7 Ionawr 2013, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Yn dilyn achosion o’r ffliw tymhorol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfyngu ar ymweliadau i Ysbyty Llwynhelyg. Nod hyn yw amddiffyn cleifion a staff a rhwystro’r haint rhag lledaenu.

Cofnodion 151 i 175 o 2417
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com