Dydd Mercher, 8 Awst 2012
Yng ngwir ysbryd y Gemau Olympaidd, mae Cyngor Caerffili wedi cipio gwobr aur am hybu iechyd yn y gweithle.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill gwobr aur am safon iechyd corfforaethol gan Lywodraeth Cymru am hybu iechyd a lles ei weithlu o 9,655 o bobl.
Mae’r marc safon cenedlaethol yn archwilio amryw gydrannau o’r awdurdod er mwyn asesu ymrwymiad i wella iechyd yn gynaliadwy. Cafodd materion iechyd penodol, yn cynnwys maeth, gweithgaredd corfforol, iechyd galwedigaethol ac iechyd a lles cyffredinol y gweithwyr eu harchwilio yn ystod yr asesiad dros ddeuddydd.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Forehead, yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am AD a llywodraethu:
“Rwy’n falch iawn bod aseswyr Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud i hybu iechyd a lles yn yr awdurdod. Rydym yn ymdrechu i integreiddio neges iechyd a lles i nodau strategol y sefydliad ac yn yr un modd yn ein polisïau a’n gweithdrefnau i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol.”
Aeth y Cynghorydd Forehead ymlaen, “Mae’r marc ansawdd hwn yn ddechrau taith i ddwyn strategaeth iechyd a lles gweithwyr yn ei blaen er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.”
Cyfrannodd nifer o fentrau ar draws yr awdurdod at gyflawni’r safon, oedd yn cynnwys sioeau teithiol i hybu iechyd, tudalennau mewnrwyd rhyngweithiol, polisïau a gweithdrefnau newydd a gwell a chynllun llysgennad gweithwyr.
Cafodd yr awdurdod adroddiad adborth oedd yn amlygu’r sylw canlynol:
“Cafodd yr aseswyr eu plesio’n fawr gydag ymrwymiad, brwdfrydedd, angerdd a bywiogrwydd y grŵp Iechyd a Lles Gweithwyr, a atebodd gwestiynau yn agored ac yn onest, gan ymddangos mewn sefyllfa dda i lywio’r awdurdod ymlaen i bethau uwch o fewn proses y Safon Iechyd Corfforaethol.”
Canmolodd Valerie Scholey, prif ymarferydd iechyd yn y gweithle i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gyngor Caerffili ar gael y wobr.
"Cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r Safon Iechyd Corfforaethol er mwyn cydnabod gweithleoedd yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu arferion i wella iechyd a lles gweithwyr. Gweithiodd cynghorwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn agos gyda’r tîm yng Nghaerffili trwy gydol y broses er mwyn cefnogi eu hymdrechion, felly rydym yn falch iawn i glywed eu bod wedi cael y safon aur. “
Aeth Val ymlaen, "Cafodd yr aseswyr eu plesio’n arbennig gan y gweithgor, sy’n gyfrifol am weithredu’r mentrau hybu iechyd amrywiol ar draws pob adran o’r Cyngor, a hefyd gan yr ymrwymiad i iechyd a lles staff a ddangoswyd gan arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor."
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru