Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn amgylchedd di-fwg. Peidiwch ag ysmygu unrhyw le ar ein safleoedd

Gwasanaeth Diogelu Plant yn trefnu cynhadledd i rannu dysg

Dydd Gwener, 3 Awst 2012
Mae Gwasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd ddydd Mercher 12 Medi.
 
Bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu dysg o gyngres BASPCAN (Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio ac Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant) a gynhaliwyd yn Belfast yn gynharach eleni.
 
Fe’i cynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt, mae’n costio £25 y pen i fynychu ac mae wedi’i hanelu at bob ymarferydd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn diogelu plant.
 
Ymysg y pynciau trafod bydd:
  • Cymorth i deuluoedd mewn angen
  • Gwersi i’r GIG ac i Gymru yn sgil adolygiadau o achosion difrifol
  • Ymchwiliadau i’r clwstwr hunanladdiad honedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 2007 a 2008
  • Cynnwys tadau mewn gwaith diogelu plant
  • Adnabod plant cyn oedran ysgol sy’n cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • Plant sy’n cael eu lladd neu eu cam-drin yn ddifrifol er gwaetha’r ffaith bod eu lles yn nwylo’r llys teulu
 
Meddai Daphne Rose, Nyrs Ddynodedig Diogelu Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelu plant ystyried themâu’r gyngres a gynhaliwyd ym mis Ebrill a sut y maent yn berthnasol i’r rhai ohonom sy’n gweithio yng Nghymru.
 
“Byddwn yn trafod nifer o bynciau pwysig yn ymwneud â diogelu lles plant yng Nghymru a gobeithiwn glywed barn cymaint o weithwyr iechyd proffesiynol â phosibl.”
 
Dylid archebu lleoedd ar gyfer y gynhadledd erbyn 31 Awst drwy lenwi’r ffurflen.
 
 
Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44081
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com