Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn amgylchedd di-fwg. Peidiwch ag ysmygu unrhyw le ar ein safleoedd

Ffigurau newydd yn dangos cynnydd yn ymgymeriad MMR yng Nghymru

Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y plant sy’n cael brechlyn MMR yng Nghymru – ond mae angen gwneud mwy o waith i gyrraedd y targed o ran ymgymeriad.
 
Mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad COVER (Cover of Vaccinations Evaluated Rapidly) diweddaraf, sydd yn dangos ymgymeriad yr holl frechlynnau plentyndod ar gyfer y flwyddyn rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012.
 
Mae’r adroddiad yn dangos yr ymgymeriad uchaf erioed o ail ddos brechlyn MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela) mewn plant pum mlwydd oed – ond mae’r ymgymeriad o 87.1 y cant yn dal yn llai na’r targed o 95 y cant.
 
Yn y cyfamser, dangosodd ymgymeriad o ddos cyntaf y brechlyn mewn plant dwy flwydd oed hefyd gynnydd o ychydig dros un y cant – i 92.7 y cant – ond methodd gyrraedd y targed.
 
Mae ymgymeriad brechlynnau plentyndod eraill sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad yn galonogol, gydag ymgymeriad yr holl frechlynnau ar gyfer plant un flwydd oed yn mynd y tu hwnt i’r targed o 95 y cant.
 
Am y tro cyntaf, mae adroddiad eleni yn dangos faint o blant yng Nghymru sydd wedi cael yr holl frechlynnau wrth ddechrau’r ysgol yn bedair oed.  Mae’r ffigurau’n dangos bod 81 y cant o blant wedi cael eu brechu’n llawn, ond mae hyn yn gadael un ym mhob pump o blant ysgol Cymru heb eu brechu’n llawn wrth ddechrau’r ysgol.
 
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy: “Ar y cyfan, mae’r tueddiadau blynyddol yn ymgymeriad brechu yng Nghymru yn gadarnhaol, ond rydym yn dal i annog rhieni yng Nghymru i sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechu.  Nid yw byth yn rhy hwyr i gael dosau a gollwyd.
 
“Mae’n newyddion da bod ymgymeriad MMR wedi cynyddu ymhellach, ond tra bod ymgymeriad y brechlyn islaw’r targed, ceir posibilrwydd o hyd o achosion ac o blant yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda chlefydau y gellir eu hatal wrth frechu.
 
“Eleni, cafwyd llawer o achosion o’r frech goch yng Nghymru a chynnydd cenedlaethol yn niferoedd y plant y cadarnhawyd bod ganddynt y pas (pertussis). Effeithiodd yr achosion o’r frech goch ar Ogledd Cymru ac ym mis Mai 2012, cadarnhawyd bod 57 o achosion, ymysg plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn bennaf. Nid oedd y rhan fwyaf o’r achosion erioed wedi cael eu brechu rhag MMR.
 
“Mae achosion o’r pas hefyd wedi cynyddu eleni, gan effeithio’n arbennig ar fabanod o dan dri mis oed.  Felly mae’n bwysig bod plant yn cael eu brechlyn cyntaf, sydd yn cynnwys brechu rhag y pas, yn wyth wythnos oed.”
 
Bydd plant sy’n cael yr holl frechiadau y maent i fod eu cael rhwng dau fis ac 16 oed yn cael eu diogelu rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela, difftheria, polio, y pas, tetanws, llid yr ymennydd C, haint niwmococol a Hib (haint bacterol a all achosi niwmonia difrifol neu lid yr ymennydd mewn plant ifanc).
 
Ers 2008, mae merched ym mlwyddyn 8 hefyd wedi cael cynnig tri dogn o frechlyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV), sydd yn eu hamddiffyn rhag feirysau sydd yn brif achos canser ceg y groth.
 
 
Mae mwy o wybodaeth am Raglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44084 
 
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com