Dydd Iau, 29 Mawrth 2012
Mae data a gesglir gan Google Analytics ar sut y mae ymwelwyr wedi rhyngweithio â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod ail fis 2012 bellach ar gael.
Rhwng 1-29 Chwefror 2012 cofnodwyd 9,602 o ymweliadau â’r wefan Saesneg gan 5,192 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 32,196 o dudalennau. Ar gyfartaledd roedd yr ymwelwyr yn edrych ar dair tudalen yn ystod pob ymweliad ac yn treulio bron dri munud ar y wefan. Roedd 88 y cant o’r ymwelwyr yn dod o’r DU a 51 y cant (o’r cyfanswm) yn dod o Gymru.
Mae nifer yr ymweliadau yn ystod mis Chwefror 2012 18 y cant yn uwch nag yn ystod mis Chwefror 2011 (ond rhaid cofio bod diwrnod ychwanegol ym mis Chwefror 2012) (gweler ffigur 1).
Ffigur 1: Ymweliadau wythnosol â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 01/02/2012-29/02/2012 [glas] a 01/02/2011-28/02/2011 [gwyrdd]

Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, cofnodwyd 328 o ymweliadau gan 185 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 870 o dudalennau. Ar gyfartaledd treuliodd yr ymwelwyr dros ddau funud ar y wefan gan edrych ar oddeutu dair tudalen yn ystod pob ymweliad.
Rhestrir y pymtheg tudalen yr ymwelwyd â hwy amlaf yn y tabl isod:
The top fifteen most visited pages are given in the table below:
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (y wefan Saesneg)
|
Teitl y Dudalen (y wefan Gymraeg)
|
|
1
|
Hafan (Home)
|
|
|
2
|
Search
|
Problemau Iechyd Meddwl (Mental health Problems)
|
|
3
|
Newyddion (News Index)
|
|
|
4
|
Tîm Cynghori Gofal Meddygol Sylfaenol (PMCAT) (Primary Medical Care Advisory Team (PMCAT)
|
|
|
5
|
Gordewdra (Obesity)
|
|
|
6
|
Map y safle (Site Map)
|
|
|
7
|
Pynciau Iechyd (Health Topics)
|
|
|
8
|
||
|
9
|
Y Rhaglen Atal a Hybu (Prevention and Promotion Programme)
|
|
|
10
|
Gwasanaethau a Thimau (Services and Teams)
|
|
|
11
|
Cyhoeddi ystadegau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Ionawr 2012 (Public Health Wales website statistics for January 2012 published)
|
|
|
12
|
Amddiffyn Plant (Safeguarding Children Service)
|
|
|
13
|
Bwyta, gweithgaredd corfforol a gordewdra (Eating, Physical Activity and Obesity)
|
|
|
14
|
Digwyddiadau (Events)
|
|
|
15
|
Achosion o’r frech goch yng Ngwynedd Cymru (Outbreak of measles in Gwynedd)
|
Yn ôl y disgwyl, mae llawer o’r tudalennau cynnwys mwyaf poblogaidd yn dudalennau gwelywio. Fodd bynnag, mae dau holiadur yn gwahodd rhanddeiliad i ymateb iddynt hefyd yn boblogaidd iawn.
Tudalen lanio yw’r dudalen y mae ymwelydd yn ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan. Rhestrir y deg tudalen lanio a ddefnyddiwyd amlaf gan ymwelwyr i gael mynediad i fersiwn Saesneg gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y tabl isod:
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (Saesneg)
|
|
1
|
|
|
2
|
|
|
3
|
|
|
4
|
|
|
5
|
|
|
6
|
|
|
7
|
|
|
8
|
|
|
9
|
|
|
10
|
Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, yr hafan oedd y dudalen lanio a gofnodwyd amlaf, gan gyfrif am 38 y cant o’r ymweliadau ac yna’r dudalen ‘Problemau Iechyd Meddwl’ ar 14 y cant. Cafodd y 52 y cant o’r ymwelwyr sy’n weddill fynediad i’r wefan drwy 89 o wahanol dudalennau ond nid oedd yr un o’r rhain yn cynrychioli cyfran arwyddocaol o’r tudalennau glanio.
Mae ein Polisi Preifatrwydd, y ceir dolen iddo ar waelod pob un o dudalennau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn berthnasol i bob gwybodaeth a gesglir neu a gyflwynir i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i’r defnydd o Google Analytics i fonitro gweithgaredd defnyddwyr. Gellir darllen ein Polisi Preifatrwydd yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/47461.
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru